Powys: 'Plant yn cael eu gadael ar ochr ffyrdd heb fysys'
- Cyhoeddwyd
Mae plant yn cael eu gadael ar ochr ffyrdd a rhieni'n pryderu am eu diogelwch wedi i amserlen fysys y sir newid, yn ôl un cynghorydd.
Gyda rhai teithiau wedi dod i ben yn gyfan gwbl, mae rhai rhieni'n dweud na chafon nhw wybod am y newidiadau.
Dywedodd y Cynghorydd Iain McIntosh fod rhai plant yn treulio tair awr yn teithio i'r ysgol ac yn ôl bob dydd.
Mae'r cyngor wedi ymddiheuro am y problemau ond dywedon fod y newidiadau'n gwneud "synnwyr ariannol" ac yn "gwbl allweddol o safbwynt argyfwng hinsawdd".
Dywedodd y Cynghorydd McIntosh ei fod wedi cael sawl neges gan rieni ynghylch y trafferthion teithio.
"Yn amlwg, mae'r awdurdod mewn anhrefn llwyr sydd wedi arwain at blant yn cael eu gadael ar ochr y ffordd gan nad oedd eu rhieni'n gwybod am yr amseroedd bws gwahanol.
"Dwi'n bryderus iawn bod disgwyl i rai plant dreulio dros dair awr yn teithio i'r ysgol ac yn ôl bob dydd, a bydd rhai'n gorfod aros rhwng bysiau mewn ardaloedd agored."
'Pa gyfathrebu?'
Mae rhieni wedi rhannu eu pryderon ynglŷn â diogelwch plant a diffyg cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd James Morris: "Pa gyfathrebu? Dim o gwbl, dim ebost, dim llythyr, dim galwad ffôn.
"Cafodd fy mab wybod fod yn rhaid iddo ddod oddi ar y bws yn Llangors a doedd dim syniad gyda ni fod newid i'w daith.
"Dwi ddim yn siŵr beth mae [Cyngor] Powys yn disgwyl iddo wneud, cerdded am dair milltir adref ar hyd ffordd 60mya brysur?"
Ychwanegodd rhiant arall, Debbie Garry Brown: "Mae'r newid amser nawr yn golygu bod fy merch ac eraill yn gorfod aros ym Mhontsenni am bron i awr ar gyfer y prif fws, mae'n rhaid bod hon yn broblem diogelwch?"
Mae'r Cynghorydd McIntosh wedi galw ar y cyngor i adfer y gwasanaethau bws sydd wedi eu newid, gan ychwanegu mai Powys yw awdurdod lleol mwyaf a mwyaf gwledig Cymru.
"Mae ein plant yn haeddu gwell na hyn," dywedodd.
'Synnwyr ariannol ac amgylcheddol'
Dywedodd yr aelod cabinet ar gyfer Powys wyrddach, y Cynghorydd Jackie Charlton fod y trefniadau i blant sy'n defnyddio'r "gwasanaeth trafnidiaeth o adref-i'r-ysgol am ddim" yn parhau.
"Tra bod mwyafrif y newidiadau hyn wedi eu cyflwyno heb unrhyw broblem, mae ambell broblem mewn ardaloedd penodol, a gallwn ni ond ymddiheuro am hynny.
"Ein prif fwriad nawr yw rheoleiddio'r gwasanaeth i rieni a disgyblion ac ymddiheuro i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio'n uniongyrchol.
Ychwanegodd fod y cabinet yn cadw trefniadau teithio dan "adolygiad cyson".
"Nid yn unig mae hyn yn gwneud synnwyr yn ariannol ond mae'n gwbl allweddol o safbwynt argyfwng hinsawdd ein bod ni ond yn gweithredu'r teithiau sydd wir eu hangen."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Medi 2019
- Cyhoeddwyd30 Awst 2019