Rhieni'n ddig am ddiffyg trafnidiaeth bysiau ysgol

  • Cyhoeddwyd
safle bws

Ar ddechrau'r tymor ysgol mae 'na bryderon mewn dwy sir bod polisïau trafnidiaeth yn tanseilio cyfleon disgyblion i gael addysg uwchradd Gymraeg.

Yn Nyffryn Ceiriog does dim lle i ddisgyblion chweched dosbarth ar y bws sy'n mynd i Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam.

Draw yn Sir Ddinbych, mae'r bws o Lanrhaeadr i Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy wedi ei ganslo am y tymor newydd.

Dywedodd Cyngor Wrecsam nad oedd hi'n orfodol iddyn nhw ddarparu trafnidiaeth i ddisgyblion ôl-16, tra bod Cyngor Sir Ddinbych yn dweud mai'r galw am seddi am ddim yw'r rheswm dros ganslo'r bws o Lanrhaeadr.

Mae Elis Jones yn un o dri disgybl o Ddyffryn Ceiriog sy'n mynd i'r chweched dosbarth yn Ysgol Morgan Llwyd - unig ysgol uwchradd Gymraeg Sir Wrecsam.

Gan nad yw hi'n statudol i gynghorau gynnig trafnidiaeth am ddim i ddisgyblion ôl-16, yn y blynyddoedd dwytha' mae rhieni wedi bod yn talu i ddisgyblion y chweched gael seddi ar y bws sy'n mynd â phlant iau o'r dyffryn i'r ysgol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Elis Jones yn ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

Ond eleni, does dim lle ar y bws hwnnw, gan adael pobl ifanc yr ardal wledig heb drafnidiaeth.

"Dwi'n teimlo y dylen ni gael ein pwshio i fynd i'r ysgol Cymraeg, dim ei wneud o'n anoddach i gael addysg Gymraeg," meddai Elis.

"Mae mam yn gweithio 20 munud i'r cyfeiriad arall, felly mae'n amhosib iddi hi fynd â fi. 'Dan ni'n gorfod mynd ar y bws neu 'dan ni'n methu mynd, rili."

Mae 47% o boblogaeth ward Ceiriog Uchaf - sy'n cynnwys pentref Tregeiriog, lle mae Elis yn byw - yn siarad Cymraeg.

Felly mae'n teimlo bod y cyngor yn gadael y rheiny sy'n dewis addysg Gymraeg i lawr, yn enwedig o'i gymharu â Choleg Cambria, sy'n darparu trafnidiaeth am ddim i'w disgyblion 16-18 oed nhw yn y gogledd ddwyrain.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elfed Williams y dylai fod gan blant Llanrhaeadr hawl i fynychu ysgol uwchradd gwbl Gymraeg

Draw yn Nyffryn Clwyd, mae tua 15 o ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd wedi eu heffeithio gan benderfyniad Cyngor Sir Ddinbych i ganslo'r gwasanaeth bws taladwy rhwng pentref Llanrhaeadr a'r ysgol.

Ysgol Brynhyfryd, ysgol ddwyieithog yn Rhuthun, yw'r ysgol uwchradd agosaf i'r pentref, felly roedd yn rhaid i rieni oedd am i'w plant fynd i Ysgol Gymraeg Glan Clwyd dalu i gael lle ar y bws.

Ond oherwydd bod mwy o alw am seddi gan ddisgyblion sy'n dod arni yn Ninbych, ac sy'n cael eu seddi am ddim, does dim lle i'r rheiny sy'n talu i fynd ar y bws.

Dadl un o'r rhieni, Elfed Williams, ydy bod gan blant y pentref yr hawl i fynd i ysgol uwchradd gwbl Gymraeg ei hiaith fel Glan Clwyd.

"Mae'r plant wedi bod mewn ysgol [Gymraeg] categori un yn y pentref ac mae ganddyn nhw'r hawl i fynd i ysgol uwchradd categori un, Gymraeg," meddai.

Ymateb cynghorau

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: "Mae pob disgybl sy'n byw mwy na tair milltir o'r ysgol uwchradd addas agosaf yn gymwys i gael trafnidiaeth am ddim.

"Dyw rhieni sydd am anfon eu plant i ysgol wahanol ddim yn gymwys i drafnidiaeth am ddim."

Mae'r cyngor yn caniatáu i ddisgyblion sydd ddim yn gymwys i dalu £50 y tymor ar gyfer lle ar y bws ond ychwanegodd llefarydd "fod hyn ar y ddealltwriaeth eu bod yn ildio'r sedd pan fod ei angen ar gyfer disgybl sy'n gymwys i drafnidiaeth am ddim."

O ran y sefyllfa yn Nyffryn Ceiriog, dywedodd Darren Williams, prif swyddog amgylcheddol a thechnegol Cyngor Wrecsam, fod y sir wedi dod â'u darpariaeth trafnidiaeth ôl-16 i ben ym mis Medi 2016, ac nad ydyn nhw'n darparu gwasanaeth o'r fath yn y sir o gwbl bellach.