Dim modd i rai plant gael bws i'r ysgol oherwydd cyfraith

  • Cyhoeddwyd
Bws ysgol

Ni fydd rhai plant yn gallu cael bws i'r ysgol o fis Ionawr am nad yw'r bysiau'n cydymffurfio â chyfreithiau newydd.

O 2020 mae'n rhaid i fysiau cyhoeddus sy'n rhaid talu i fynd arnynt gael lle i gadeiriau olwyn, ond mae nifer o fysiau ysgol sydd ddim yn cydymffurfio â'r gofynion hynny.

Mae'n golygu bod disgyblion sydd ddim yn gymwys ar gyfer bws am ddim wedi cael gwybod y bydd y gwasanaeth yn dod i ben.

Dywedodd cynghorau nad oedden nhw'n ymwybodol bod y gyfraith newydd yn berthnasol ar gyfer bysiau ysgol, ond mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod wedi rhoi gwybod iddynt.

Mae'r newid wedi achosi pryder i rai rhieni, sy'n poeni am sut y bydd eu plant yn mynd i'r ysgol yn ddiogel.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carys Jenkins a rhieni eraill wedi gorfod llunio rota er mwyn trefnu pwy sy'n cludo plant i'r ysgol

Dydy mab 11 oed Carys Jenkins, Rhys, ddim yn gymwys ar gyfer bws am ddim am ei fod yn byw o fewn tair milltir i'w ysgol - Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd.

Roedd hi wedi bwriadu talu iddo fynd ar y bws oherwydd bod y llwybr o'u cartref i'r ysgol yn daith o dros ddwy filltir ar ffyrdd prysur.

Ond nawr mae Ms Jenkins a rhieni eraill wedi gorfod llunio rota er mwyn trefnu pwy sy'n cludo plant i'r ysgol a 'nôl adref.

Disgrifiad o’r llun,

Heb fws mae Rhys yn wynebu taith gerdded o dros ddwy filltir i'r ysgol ar ffyrdd prysur

"Un o'r opsiynau oedd bod o'n cerdded i'r ysgol a falle cael criw ohonyn nhw at ei gilydd fel bod nhw'n cerdded a bod nhw'n fwy diogel mewn criw, ond eto 11 mlwydd oed ydyn nhw ac wrth i Dachwedd a Rhagfyr ddod mae'n mynd i fod yn dywyll, ac er eich bod chi eisiau rhoi annibyniaeth i'r plant o'n i jest yn meddwl falle bod hynny ddim yn ddiogel iddyn nhw," meddai.

"Yr opsiwn arall ydy bod o'n mynd ar fws cyhoeddus, ond eto dwi'm yn gwybod pa mor hapus fyswn i os fyse fo'n mynd ar y bws cyhoeddus heb ei ffrindiau, felly 'da ni 'di dod at ein gilydd fel teuluoedd i drafod yr opsiynau oedd ganddon ni a dod i'r canlyniad mai bod yn ddibynnol ar neiniau a theidiau ydy'r opsiwn gorau.

"Oherwydd ein bod ni'n gweithio, mae'n golygu bod ni'n ddibynnol ar y neiniau a'r teidiau i gasglu, ac mae'n gymhleth hefyd gan fod gan rai ohonom ni blant eraill mewn ysgol gynradd, a hefyd bod y plant yn gobeithio mynd i glybiau ar ôl ysgol a da ni'm yn gwybod pa glybiau a nosweithiau."

'Creu problemau'

Ychwanegodd Rhys: "Os ni'n gallu mynd ar y bws bydd pawb yn gwybod ble ydych chi a bod chi'n fine, os chi efo rhieni pobl eraill ma' fe i gyd yn confusing ac mae 'na rota - rhieni un person ac wedyn y dydd arall mae'n rhiant person arall."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd Gwenllian yn gorfod cymryd bws cyhoeddus ac yna cherdded i'r ysgol

Un arall fydd angen canfod ffordd wahanol i'r ysgol ydy Gwenllian, sy'n wynebu taith o thua awr pob ffordd o fis Ionawr ymlaen.

"Byse'n rhaid cerdded i Morganstown, Radur, ac wedyn cael bws i Danescourt ac wedyn cerdded i'r ysgol," meddai.

"Tua awr yn dibynnu ar y traffig a sut dwi'n cerdded, a be' mae'r tywydd fel hefyd.

"Yn y gaeaf bydd e'n dywyll a falle bwrw glaw neu eira ac mae jest yn creu llawer o broblemau i fynd i'r ysgol bob dydd."

Pwy sy'n gymwys am drafnidiaeth am ddim i'r ysgol?

Disgyblion cynradd os ydyn nhw'n byw dros ddwy filltir o'r ysgol addas agosaf;

Disgyblion uwchradd dan 16 oed os ydyn nhw'n byw dros dair milltir o'r ysgol addas agosaf.

Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod yn credu nad oedd deddfwriaeth newydd yr Adran Drafnidiaeth - sy'n dweud bod yn rhaid i bob gwasanaeth bws cyhoeddus gael lle ar gyfer cadeiriau olwyn - yn berthnasol ar gyfer bysiau ysgol.

Yn ôl llefarydd does gan yr un o fysiau ysgol y sir le i gadair olwyn, ac mae'r awdurdod wedi ysgrifennu at rieni yn dweud na fydd modd talu am le ar fws ysgol ar ôl tymor yr hydref.

Ychwanegodd na fyddai'r cyngor yn gallu cael bysiau arall oherwydd y gost.

'20 mlynedd i baratoi'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae bron i 20 mlynedd wedi bod i baratoi ar gyfer rhoi'r rheoliadau hyn ar waith.

"Mae hyn yn ddigonedd o amser i fod wedi cynllunio'n briodol i gael cerbydau newydd sy'n cwrdd â'r gofynion."

Ychwanegodd llefarydd o'r Adran Drafnidiaeth: "Mae gwasanaeth bws addas yn allweddol er mwyn sicrhau bod plant, yn enwedig y rheiny sy'n anabl, yn cyrraedd yr ysgol ar amser.

"Rydym yn disgwyl i weithredwyr ac awdurdodau gydymffurfio â pharau i weithio awdurdodau lleol ar sut y gallan nhw gyflawni hyn."