Cwmni Wizz Air yn tynnu allan o Faes Awyr Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr CaerdyddFfynhonnell y llun, Cardiff Airport
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Maes Awyr Caerdydd ei fod wedi'i "siomi" a'i "synnu" gan y penderfyniad

Mae Maes Awyr Caerdydd yn dweud ei fod wedi'i "siomi" a'i "synnu" gyda phenderfyniad Wizz Air i ganslo'i holl wasanaethau yng Nghymru.

Mae'r cwmni o Hwngari wedi beio'r sefyllfa economaidd bresennol am y penderfyniad.

Roedd Wizz Air eisoes wedi cyhoeddi na fyddai'n hedfan mewn ac allan o Gaerdydd dros y gaeaf gan na fyddai'n "economaidd hyfyw".

Ond mae'r cyhoeddiad diweddaraf yn gwneud y sefyllfa yn un parhaol.

Yn 2020 fe gyhoeddodd y cwmni hediadau rhad a fyddai'n creu 40 o swyddi gyda chanolfan barhaol ym Maes Awyr Caerdydd.

Ar y pryd roedd yn cael ei ystyried fel hwb i'r diwydiant yn sgil colli gwasanaeth Flybe, ond mae penderfyniad Wizz Air yn ergyd pellach i'r maes awyr.

'Tueddiadau archebu cadarnhaol'

Dywedodd Wizz Air y gallai cwsmeriaid sydd wedi'u heffeithio naill ai gael ad-daliad o 120% mewn credyd cwmni hedfan, ad-daliad arian parod 100% neu daith awyren arall o un o'i ganolfannau eraill.

Bydd y ddau lwybr gaeaf sy'n weddill gan y cwmni - i Milan a Bucharest - yn peidio â gweithredu o 25 Ionawr.

Roedd cyflwyno Wizz Air i fod i gynyddu capasiti blynyddol Maes Awyr Caerdydd o fwy na 350,000 o seddi.

Ond mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Caerdydd, sy'n berchen i Lywodraeth Cymru, eu bod yn "siomedig iawn" a'i fod yn "anffodus" bod Wizz Air wedi cyfeirio at yr hinsawdd economaidd gan fod "tueddiadau archebu cadarnhaol" ar gyfer 2023.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r cwmni ers 2020 a'u hawgrymiadau diweddaraf i ni yr wythnos diwethaf oedd bod archebion ar gyfer yr haf hwn o flaen yr adeg hon y llynedd, felly rydym wedi'n synnu gan y penderfyniad," dywedodd y llefarydd.

"Mae ein meddyliau gyda'n cwsmeriaid y mae'r newyddion hyn yn effeithio arnynt ac sydd bellach yn wynebu aflonyddwch i'w cynlluniau teithio ar gyfer eleni, ynghyd â'n ffrindiau a'n cydweithwyr sy'n cael eu cyflogi gan Wizz Air yng Nghaerdydd.

"Mae pedwar o'n cwmnïau hedfan presennol yn dal i gynllunio gweithrediadau o Gaerdydd i'r holl gyrchfannau yr oedd Wizz yn gwerthu tocynnau iddynt.

"Rydym yn annog y cwsmeriaid hynny a oedd wedi archebu lle ar Wizz eleni, i ystyried dewis amgen i hedfan i'w cyrchfannau dewisol o Gaerdydd gyda TUI, Vueling Ryanair a KLM."

Dulliau Llywodraeth Cymru 'yn methu'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, fod y newyddion yn "ergyd arall" i'r trethdalwr.

"Mae gweinidogion Llafur wedi gwario £112m ar Faes Awyr Caerdydd ers iddyn nhw ei brynu," meddai.

"Gallai'r arian hwn fod wedi mynd tuag at roi trefn ar yr argyfwng damweiniau ac achosion brys yn y GIG yng Nghymru.

"Mae nifer y teithwyr yng Nghaerdydd i lawr 44% ar lefelau cyn-bandemig, tra bod Maes Awyr Bryste i lawr 5% yn unig.

"Rydyn ni i gyd eisiau gweld y Maes Awyr yn ffynnu, ond mae dulliau Llafur yn amlwg yn methu."