Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 2-1 Bromley

  • Cyhoeddwyd
National LeagueFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe darodd Wrecsam yn ôl yn erbyn Bromley yn y Gynghrair Genedlaethol i'w trechu 2-1 gan sicrhau eu chweched buddugoliaeth o'r bron.

Yr ymwelwyr wnaeth sgorio gôl gyntaf y noson, diolch i Corey Whitely (33).

Unionodd Paul Mullin y sgôr o'r smotyn tua diwedd yr hanner cyntaf - ei 25ain gôl o'r tymor - yn dilyn trosedd ar Jordan Tunnicliffe.

Yr eilydd James Jones wnaeth selio'r fuddugoliaeth gydag ergyd o ymyl y cwrt chwech wedi 73 o funudau.

Mae'r canlyniad hefyd yn golygu bod tîm Phil Parkinson - sy'n parhau yn ail safle'r tabl tu ôl i Notts County - heb golli mewn 17 o gemau ymhob cystadleuaeth.