Atal gwaith dau safle dur yng Nghymru yn 'ergyd anferth'
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau i atal y gwaith mewn dau o safleoedd Liberty Steel yng Nghymru yn "ergyd anferth" i'r gweithlu, yn ôl undeb.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni y byddai'n "atal" ei safleoedd yng Nghasnewydd a Thredegar fel rhan o waith ailstrwythuro'r busnes.
Galwodd Community - undeb y gweithwyr dur - am "ymgynghoriad ystyrlon" ar y cynlluniau, fydd yn cael effaith ar 440 o swyddi ar draws y DU.
Mae 120 o'r swyddi hynny yng Nghasnewydd, a 30 yn Nhredegar.
Yn ôl Liberty Steel bydd y newidiadau yn sicrhau "ffordd hyfyw ymlaen" i'r busnes, ac fe fydd unrhyw un sy'n cael ei effeithio yn cael cynnig swyddi eraill.
Mae'r cwmni hefyd yn atal y gwaith ar ei safle yn West Bromwich yng nghanolbarth Lloegr, a bydd y gweithlu yn Rotherham ar gyrion Sheffield yn cael ei leihau.
Mae Liberty Steel wedi wynebu trafferthion ariannol ers i'w ariannwr, Greensill Capital, fynd i'r wal.
Ond fe ddaeth y cyhoeddiad ddydd Iau fel sioc i weithwyr a'u hundeb.
Galw ar Lywodraeth y DU i weithredu
Dywedodd swyddog cenedlaethol Community, Alun Davies, na allai'r staff fod wedi gwneud mwy i gefnogi'r cwmni trwy'r trafferthion diweddar.
"Ers i Greensill Capital fynd i'r wal mae'r undebau llafur wedi cefnogi'r cwmni am ein bod yn credu mai cyflawni ei gynlluniau busnes... oedd y ffordd orau i ddiogelu swyddi a dyfodol y busnes," meddai.
Dywedodd nad oedd y cynlluniau hynny yn cynnwys atal gwaith mewn unrhyw safleoedd.
"Mae'n gyfnod anodd i'r diwydiant dur ond mae penderfyniad y cwmni i newid eu cynlluniau a chyhoeddi strategaeth sy'n seiliedig ar doriadau yn ergyd anferth," meddai Mr Davies.
"Mae angen ymgynghoriad ystyrlon ar y cynlluniau yma, a bydd yr undebau yn craffu ar y cynlluniau i atal y gwaith yng Nghasnewydd, West Bromwich a Thredegar."
Galwodd Mr Davies hefyd ar Lywodraeth y DU i "weithredu er mwyn cael y prisiau ynni cystadleuol sydd ei angen yn daer ar ein diwydiant".
Dywedodd Llywodraeth y DU ei fod wedi ymrwymo i sicrhau "dyfodol cynaliadwy" i'r sector.
Yn ôl llefarydd y Prif Weinidog Rishi Sunak, mae'r newyddion yn "bryderus", ond dywedodd y bydd gweinidogion yn "parhau i gynnig cefnogaeth sylweddol" i'r diwydiant.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2020