Liberty Steel i dorri 355 o swyddi yn ne Cymru a Sir Efrog

  • Cyhoeddwyd
Liberty Steel

Mae cwmni dur Liberty Steel wedi cyhoeddi y bydd yn torri tua 70 o swyddi yng Nghymru fel rhan o ddiswyddiadau ehangach.

Bwriad y cwmni ydy torri 355 o swyddi o'i safleoedd yng Nghasnewydd a Stocksbridge yn Sir Efrog.

Yn ôl Liberty mae wedi dod i'r penderfyniad mewn ymateb i "amgylchiadau heriol yn y farchnad a gostyngiad yn y galw am gynnyrch dur o'r DU".

Dywedodd prif weithredwr y cwmni, Cornelius Louwrens: "Y anffodus mae'r diwydiant dur yn y DU yn wynebu amgylchiadau heriol ac rydyn ni wedi gwneud y penderfyniad anodd bod angen lleihau'r gweithlu mewn rhai lleoliadau er mwyn eu gwneud yn fwy cynaliadwy yn y tymor hir.

"Mae hi wastad wedi bod yn fwriad gennym i osgoi diswyddiadau gorfodol."

Bydd y cwmni yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol i weithwyr ar y safleoedd sy'n cael eu heffeithio, neu'n cynnig eu symud at gwmni newydd - GFG Workforce Solutions - fyddai'n eu gweld yn aros ar dâl llawn a gwneud gwaith asiantaeth.

'Haeddu gwell'

Mae tua 200 o staff yn gweithio yn y safle yng Nghasnewydd ar hyn o bryd.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol undeb gweithwyr dur Community, Roy Rickhuss bod y newyddion yn bryderus ac y bydd "nifer o weithwyr dur a'u teuluoedd yn poeni".

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn dangos unwaith eto bod heriau'n parhau ar gyfer diwydiant dur y DU, a dyna pam ry'n ni'n galw eto ar y llywodraeth i gwrdd ag undebau a chyflogwyr yn y diwydiant i drafod gweithredu ar y problemau ry'n ni wedi bod yn ymgyrchu arnynt ers peth amser, fel costau ynni a chyfraddau busnes," meddai.

"Byddwn yn cwrdd â Liberty Steel i edrych ar eu cynlluniau yn fanwl ac asesu'r rhesymeg tu ôl i'r cynigion hyn.

"Yn y cyfamser, ry'n ni'n cydnabod fod y cwmni wedi cyhoeddi ei fwriad i gyflawni'r toriadau drwy ddiswyddiadau gwirfoddol - byddwn yn eu cadw at yr addewid yna."

Ychwanegodd Ross Murdoch o undeb y GMB bod "ein gweithwyr dur yn haeddu gwell".

"Mae'r llywodraeth angen ymyrryd ar frys a sicrhau bod cwmnïau dur yn y DU yn derbyn y gefnogaeth maen nhw wedi galw amdano ers amser maith," meddai.