Un yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad car a bws coleg yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Car a swyddogion heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedwyd yn wreiddiol fod chwe pherson wedi gadael y bws yn ddiogel heb anafiadau

Mae'r heddlu yn ymchwilio yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws coleg yn Sir Gaerfyrddin fore Iau.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, fe darodd bws yn erbyn Citroen C4 cyn taro polyn trydan ar yr A484 rhwng Porth Tywyn a Phwll am tua 07:45.

Roedd y bws yn cludo pump o fyfyrwyr Coleg Sir Gâr, ac fe gafodd un fân anafiadau, meddai'r heddlu.

Cafodd un person ei gymryd i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Bu rhan o'r ffordd ynghau am ychydig oriau o tua 08:20, gan effeithio ar draffig rhwng Pen-bre a Llanelli, ond mae bellach wedi ailagor.

Dywed yr heddlu eu bod yn ymchwilio a'u bod yn apelio am wybodaeth.

Pynciau cysylltiedig