Canolfan gymunedol Llandyrnog gam yn nes

  • Cyhoeddwyd
siop Llandyrnog
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prosiect wedi derbyn £200,000 gan un o gronfeydd Llywodraeth y DU

Am gyfnod o tua 180 o flynyddoedd roedd 'na o leiaf un siop ym mhentref Llandyrnog yn Sir Ddinbych.

Ac er newid lleoliad a pherchnogaeth dros y blynyddoedd, yr un oedd y nod - gwasanaethau un o brif bentrefi Dyffryn Clwyd.

Ond yn ystod y pandemig, caeodd y siop-bob-dim ei drysau, ac yn fuan wedyn diflannodd siop y cigydd hefyd.

I'r bwlch hwnnw mae menter gymunedol yn gobeithio camu - a hynny mor gynnar â mis Mai.

Mae'r prosiect wedi derbyn £200,000 gan un o gronfeydd Llywodraeth y DU, ac maen nhw'n gobeithio sicrhau mwy o grantiau a gwerthu cyfranddaliadau i bobl y cylch.

'Rheswm i ddod allan'

Y nod ydy ailagor yr adeilad, sydd yn cael ei ddefnyddio'n rhannol fel Swyddfa Bost ar hyn o bryd, ac ailagor siop i werthu nwyddau a sicrhau bod 'na le i bobl ddod ynghyd os ydyn nhw'n teimlo'n unig.

"Y bwriad sydd gynnon ni ydy ailagor hwn i gyd, adnewyddu tu fewn yr adeilad, symud y Swyddfa Bost fel bod gynnon ni fangre yn fa'ma i roi byrddau, cadeiriau - gwneud o'n hwb cymunedol," meddai Emyr Morris, un o'r cyfarwyddwyr.

"Mae 'ne elfen o boblogaeth hen yn y pentre' - ddim pawb - ond mae hwn [y fenter] yn golygu bod gynnon nhw reswm i ddod allan, mynd i'r siop, dod am baned, cyfarfod cyfeillion, ac yn y blaen."

Ffynhonnell y llun, Diana Langford- Jones
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol roedd siop y pentref mewn adeilad arall, gyferbyn â'r lleoliad presennol

Roedd 2018 yn ddiwedd cyfnod i Landyrnog, wrth i'r llaethdy sy'n tyrru dros y pentref gau yn derfynol.

Cafodd y safle ei werthu i gwmni o'r Fflint sy'n creu cynnyrch concrit ar gyfer y diwydiant adeiladu.

Ochr yn ochr â'r golled honno, mae sawl busnes wedi cau dros y blynyddoedd diwethaf, gan adael y pentref â dim mwy nag un dafarn a Swyddfa'r Post.

'Gweld y gymuned yn cryfhau'

Yn ôl y Cynghorydd Merfyn Parry - sy'n cynrychioli'r ardal ar Gyngor Sir Ddinbych - mae pethau'n argoeli'n well eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prosiect yn gobeithio sicrhau mwy o grantiau a gwerthu cyfranddaliadau i bobl y cylch

Mae'n deall y bydd y ffatri yn dechrau gweithredu ar ei newydd wedd yn ystod 2023, ac mae'n edrych ymlaen at weld y siop yn ailagor fel adnodd cymunedol.

"Dwi'n gweld y gymuned yn cryfhau efo rhywbeth fel hyn yma," meddai.

"Dydy pawb ddim yn bobl sy'n mynd i'r Golden Lion [y dafarn], dydy pawb ddim yn bobl sy'n mynd i'r capel neu'r eglwys, ond mae pawb, fel arfer, yn mynd i'r siop."

Ffynhonnell y llun, Monopoly

Dydy derbyn £200,000 o Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU ddim yn rhoi stop ar ymdrechion menter Siop Llandyrnog i godi arian - mae angen sicrhau mwy o gyllid cyn bod modd bwrw ati ac agor y drysau.

Bydd cynllun prynu cyfranddaliadau yn agor cyn hir, ac mae'r tîm yn disgwyl clywed os ydyn nhw wedi llwyddo i gael grantiau o ffynonellau eraill hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Ysgrifennydd Cymru yn ymweld â'r fenter ddydd Iau

Daeth Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies AS, draw i weld y fenter gymunedol ddydd Iau.

Dywedodd bod grantiau Lefelu'r Gwastad - fel y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol - yn fodd o "sicrhau bod neb yn colli allan oherwydd Brexit".

Tra bo rhai wedi beirniadu'r awdurdodau yn San Steffan am roi arian yn uniongyrchol i gymunedau fel hyn - yn hytrach na'i roi i Lywodraeth Cymru i'w ddosbarthu - fe ddywedodd Mr Davies fod cynghorau sir yn hapus i gael cydweithio gyda Llywodraeth y DU.

"Ni'n meddwl mai'r awdurdodau lleol yw'r rhai sydd ar y ground, a sydd mewn safle gwell i benderfynu be' sy'n bwysig i'w hardal nhw," meddai.

Pynciau cysylltiedig