Rygbi: Noson dda i'r Cymry yng Nghwpan Her Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Ashton HewittFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ashton Hewitt yn ran o noson hanesyddol i'r Dreigiau yn Ffrainc

Sicrhaodd y Dreigiau eu buddugoliaeth Ewropeaidd gyntaf mewn tair blynedd i roi hwb i'w gobeithion yn y Cwpan Her.

Roedd hi'n noson dda i'r Scarlets hefyd wrth iddynt sicrhau eu lle yn y rownd nesaf wedi trechu'r Cheetahs yn Llanelli.

Llwyddodd y Dreigiau i esgyn i'r trydydd safle yng Ngrŵp B yn dilyn eu buddugoliaeth oddi cartref yn Pau o 21-15.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen o 15-7 ar yr hanner diolch i geisiau Ashton Hewitt a Max Clarke.

Croesodd Vincent Pinto i'r tîm cartref wedi'r egwyl ond daliodd y Dreigiau eu gafael i sicrhau buddugoliaeth werthfawr wrth i Will Reed sicrhau cic gosb hir.

Ond er i JJ Hanrahan ychwanegu ymhellach ar y sgôr, roedd gic gosb munud olaf Axel Despre yn ddigon i sicrhau pwynt bonws gwerthfawr i Pau.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Steff Evans ymysg y sgorwyr i'r Scarlets.

Ym Mharc y Scarlets sgoriwyd ceisiau'r tîm cartref gan Steff Evans a Johnny McNicholl, gyda throed Leigh Halfpenny hefyd yn ychwanegu 10 pwynt i'r sgorfwrdd.

Ymatebodd y Cheetahs gyda cheisiau gan Louis van der Westhuizen a Dan Kapepula, ond daliodd y tîm cartref ymlaen i sicrhau buddugoliaeth o 20-17.

Pynciau cysylltiedig