Triniaeth frys ar Ddydd Nadolig yn achub golwg plentyn
- Cyhoeddwyd
Mae teulu bachgen pump oed wedi diolch i staff yn Ysbyty Gwynedd am achub ei olwg yn dilyn damwain Noswyl Nadolig wnaeth bron achosi iddo golli ei olwg.
Dywedodd Cara Williams bod ei mab, Theo, yn chwarae gêm gyfrifiadurol pan lithrodd powlen wydr oddi ar y cownter a chwalu, gan achosi i ddarn o wydr fynd i'w lygad.
Bu'n rhaid iddo gael ei ruthro i'r adran frys i gael sgan CT, cyn cael llawdriniaeth frys fore Dydd Nadolig i achub ei olwg.
Yn dilyn y lawdriniaeth lwyddiannus, dywedodd y teulu na allen nhw "ddiolch digon i staff yr ysbyty am beth maen nhw wedi ei wneud i Theo".
Diolch i staff 'anhygoel'
Pan gyrhaeddodd Theo yr ysbyty dywedodd ei fam ei fod wedi cael ei weld yn sydyn, er ei bod hi'n "brysur iawn" yno.
Fe wnaeth doctoriaid asesu bod Theo mewn "sefyllfa ddifrifol" a bod felly angen llawdriniaeth mor fuan â phosib.
"Heb lawdriniaeth brys byddai Theo wedi colli golwg yn llwyr yn ei lygad dde," meddai'r llawfeddyg llygad ymgynghorol, Syed Amjad.
"Fe wnaeth y tîm anasthetig baratoi Theo ar gyfer llawdriniaeth, ac fe gafodd ei flaenoriaethu felly roedd modd i ni wneud y lawdriniaeth mor gyflym â phosib - roedd amser yn ein herbyn."
Mae golwg Theo bellach wedi dychwelyd bron yn llwyr, ac fe ddychwelodd i Ysbyty Gwynedd yn ddiweddar i ddiolch i'r rheiny fu'n edrych ar ei ôl.
"O'r foment wnaethon ni gyrraedd yr adran frys, drwyddo i'r theatr ac yna'r arhosiad ar Ward Dewi, roedd y gofal yn ffantastig ac roeddan ni'n teimlo fel eu bod nhw'n edrych ar ein holau ni drwyddo fo i gyd," meddai Ms Williams.
"Roeddan ni eisiau deud diolch mawr iddyn nhw, yn enwedig am achub golwg Theo ond hefyd i ddangos y gwaith anhygoel maen nhw'n ei wneud."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2023