Y Bencampwriaeth: Sunderland 1-3 Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Matt Grimes, Ryan Manning a Joel Piroe yn dathluFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae Abertawe wedi dringo i hanner uchaf y Bencampwriaeth yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn 10 dyn Sunderland.

Y tîm cartref ddechreuodd yr ornest gryfaf, gyda Patrick Roberts yn dod yn agos gyda chic rydd a laniodd ar do rhwyd Abertawe.

Ond daeth moment fawr yr hanner cyntaf wedi 18 munud, wrth i Luke O'Nien gael cerdyn coch yn dilyn tacl wael ar ymosodwr yr Elyrch, Ollie Cooper.

Er i Abertawe gael cyfleoedd drwy Harry Darling, Joe Allen a Joel Piroe, llwyddodd y tîm cartref i ddal yn gadarn i fynd i mewn ar yr egwyl yn ddi-sgôr.

Ond o fewn pum munud i'r ail hanner fe gafwyd y gôl agoriadol, gyda Piroe yn cael y dasg hawdd o roi'r bêl yng nghefn y rhwyd o ddau lathen.

Wedi 65 munud o chwarae roedd Sunderland yn gyfartal, gyda Danny Batth yn penio croesiad Jack Clarke i lawr at Dan Neil i orffen y cyfle.

Ond o fewn pum munud roedd yr Elyrch yn ôl ar y blaen, wrth i'r Cymro Liam Cullen gael y cyffyrddiad olaf i roi'r bêl yng nghefn y rhwyd.

Sicrhawyd y fuddugoliaeth toc wedi hynny gan Gymro arall, wrth i Cooper orffen yn wych i daro'r bêl yn uchel i gefn y rhwyd.