Cwpan Her Ewrop: Rygbi Caerdydd 42-10 Newcastle
- Cyhoeddwyd
Mae Rygbi Caerdydd wedi sicrhau eu lle yn rownd 16 olaf Cwpan Her Ewrop yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus dros Newcastle ar Barc yr Arfau.
Gyda dwy fuddugoliaeth allan o ddwy yn y gystadleuaeth yn barod - a'u gwrthwynebwyr wedi colli pob un hyd yma - roedd tîm Dai Young wastad yn ffefrynnau ar gyfer yr ornest.
Ac fe wnaethon nhw wastraffu dim amser yn dangos eu goruchafiaeth, gan gipio pwynt bonws erbyn yr egwyl cyn gorffen y gêm wedi sgorio chwe chais yn dilyn cerdyn coch i Newcastle.
Roedd Owen Lane a Lloyd Williams eisoes wedi croesi'r llinell gais yn y pum munud cyntaf, gyda Rhys Priestland yn trosi'r ddwy i adeiladu mantais gynnar.
Daeth pwyntiau cyntaf yr ymwelwyr yn fuan wedyn o gic gosb Tian Schoeman, cyn i Lane sgorio ei ail o'r prynhawn ar ôl rhyng-gipio'r bêl yn ei hanner ei hun a rhedeg gweddill hyd y cae.
Funud cyn yr egwyl fel aeth pethau o ddrwg i waeth i Newcastle wrth i Elliott Obatoyinbo gael ei anfon o'r cae, a hynny am dacl uchel ar Jason Harries wrth i asgellwr Caerdydd ddeifio am y gornel.
O'r symudiad a ddilynodd fe diriodd y prop Rhys Carré i sicrhau'r pwynt bonws, a Priestland yn cadw'i record berffaith gyda'r trosiad.
12 munud wedi'r egwyl fe ddawnsiodd Josh Adams ei ffordd i'r llinell gais ar gyfer pumed i Gaerdydd, ond ar yr awr fe gafodd Newcastle gais eu hunain drwy'r bachwr Alun Walker.
Daeth cais olaf y prynhawn i Gaerdydd pum munud o'r diwedd, wrth i'r eilydd Harry Millard garlamu'n glir.
Mae hefyd yn golygu bod pob un o ranbarthau Cymru wedi ennill yn Ewrop y penwythnos hwn, wedi i'r Gweilch drechu Montpellier yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop nos Sadwrn, a'r Scarlets a'r Dreigiau ennill yn y Cwpan Her nos Wener.