'Angen gwella diogelwch gwylwyr rasys beicio mynydd'
- Cyhoeddwyd

Bu farw Judith Garrett, 29, wedi iddi gael ei tharo gan feic a gollodd reolaeth
Mae crwner wedi galw am welliannau diogelwch yn ystod rasys beicio mynydd wedi marwolaeth un a oedd yn gwylio'r ras ger Llangollen yn 2014.
Cafodd Judith Garrett, 29, o Prudhoe yn Northumberland, ei tharo gan feic wedi iddo fynd allan o reolaeth yn fferm Tan y Graig.
Clywodd cwest yn Rhuthun ddydd Llun bod y ddynes wedi'i chludo gan ambiwlans awyr i'r ysbyty ond ei bod wedi marw dridiau yn ddiweddarach o anafiadau difrifol i'w phen.
Dywed y corff sy'n goruchwylio'r gamp, British Cycling, bod gwelliannau diogelwch eisoes wedi cael eu gwneud ond y byddan nhw'n cwrdd wythnos nesaf i drafod awgrymiadau eraill a wnaed gan y crwner.
Dywedodd y crwner wrth British Cycling ei fod am weld arwyddion cliriach i nodi lle na ddylai gwylwyr sefyll.
Os na fyddai gwelliannau yn digwydd, meddai, fe fyddai'n ystyried gweithredu pellach.

Dywedodd Peter Walton bod ei bartner yn berson 'allblyg, llawn bywyd'
Roedd Judith Garrett wedi mynd i'r digwyddiad yn Llangollen i wylio ei phartner Peter Walton yn cystadlu yn y ras ar ddydd Sul, 31 Awst 2014.
Dywedodd Mr Walton wrth y cwest ei fod ar gopa'r mynydd yn barod i seiclo lawr pan ddigwyddodd y ddamwain.
Wrth ei disgrifio dywedodd ei bod yn "berson allblyg, llawn bywyd a phositif - rhywun oedd yn mwynhau bod y tu allan ac a fyddai'n gwneud unrhyw ddigwyddiad yn hwyl".
Ond dywedodd y "dylai diogelwch gwylwyr fod yn flaenoriaeth".
"Mae rasio i lawr allt yn beryglus - i'r beiciwr - ac mae'n rhaid i draciau fod yn heriol, ond ddylai'r bobl sy'n gwylio ddim gael eu taro gan feiciau.
"Yn fy marn i, roedd y rhan o'r trac yn Llangollen yn 2014 lle'r oedd Jude yn sefyll yn ardal o risg uchel.
"Yn y gorffennol, yn fy mhrofiad i, mae'r ardal yna wedi'i chau i ffwrdd ond yn ystod y penwythnos yna yn 2014, roedd yna nifer o bobl yn sefyll, ac ni ofynnwyd i'r un person adael."
Cyflwyno nifer o newidiadau
Dywedodd Nigel Cowell-Clark, rheolwr risg British Cycling, wrth y gwrandawiad eu bod wedi cyflwyno nifer o newidiadau wrth drefnu digwyddiadau eraill tebyg.
Ers marwolaeth Ms Garrett, does yna ddim adroddiadau o ddigwyddiadau lle mae beic wedi taro gwyliwr tra'n rasio i lawr mynydd.
Yn 2014 roedd y swyddog oedd yn gyfrifol am y cwrs yn Llangollen wedi methu â cherdded y trac.
"Bellach mae'r swyddog yn gorfod arolygu'r cwrs ei hun a nodi ei fod yn ddiogel - os nad yw hynny'n digwydd, dyw'r ras ddim yn cael ei chynnal.
"Ry'n yn defnyddio ein swyddog i herio trefnydd y ras," ychwanegodd Mr Cowell-Clark.
Ond fe gyfaddefodd bod rhai newidiadau, gan gynnwys arwyddion cliriach i wylwyr, yn parhau i gael eu hystyried - sylwadau a wnaeth ennyn geiriau chwyrn gan y crwner John Gittins.
"Dwi ddim yn hoff o'r ateb yna," meddai'r crwner wrth Nigel Cowell-Clark. "Mae'n ffordd hawdd o wella diogelwch."
Ar ddiwedd y gwrandawiad fe wnaeth British Cycling sicrhau John Gittins y byddai'r newidiadau i arwyddion ar gyfer gwylwyr yn cael eu trafod wythnos nesaf.
Nododd y byddant yn ei hysbysu o unrhyw gynlluniau ar gyfer gwelliannau.
Fe wnaeth y crwner ateb gan ddweud: "Realiti'r sefyllfa yw bod gen i bryderon o hyd ac os ydw i'n clywed mai penderfyniad British Cycling yw peidio gweithredu yna fe fyddaf yn eu hysbysu'n swyddogol ei fod yn fater o bryder."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd10 Medi 2014