Taith dwy chwaer i gael diagnosis dyslecsia yn oedolion
- Cyhoeddwyd
Mae Catrin Stephens yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ac fe gafodd ddiagnosis o ddyslecsia y llynedd.
Aeth fy chwaer a minnau drwy ein cyfnod yn yr ysgol heb wybod fod gennym ddyslecsia.
Roedd gwneud TGAU a Lefel A heb wybod hynny yn straen ar fy iechyd meddwl.
O'n i'n teimlo euogrwydd nad oeddwn i'n cyrraedd fy llawn botensial, er fy mod i'n ymdrechu mor galed.
Felly a ydyn ni'n gwneud digon i godi ymwybyddiaeth ac i hyfforddi athrawon, rhieni ac unigolion i sylwi ar yr arwyddion?
'Nawr mae gen i'r eirfa i esbonio'
Fe wnaeth Megan, fy chwaer, dybio fod ganddi anhawster dysgu yn ystod y pandemig pan oedd pwysau gwaith cwrs yn dechrau cael effaith negyddol ar ei hiechyd meddwl.
Fe gafodd hi ddiagnosis fis Ebrill y llynedd.
"Teimlais fy mod dan lawer o straen ac yn methu canolbwyntio ar dasgau roeddwn i'n gw'bod o'ddwn i'n gallu 'neud, ond oedd yn fwy time-consuming i fi nag eraill," meddai.
"Wnes i ddechrau gwneud ymchwil i mewn i anabledd dysgu, wnes i drio tabledi magnesiwm ac haearn, a gofyn i'r doctor am fy anawsterau gyda chofio pethau.
"Rwy'n cofio, ym Mlwyddyn 11 ac 13, cael fy nhynnu ar ôl gwers gan yr un athro sawl gwaith yn gofyn os oeddwn i yn iawn, a pham nad ydw i'n cyrraedd fy mhotensial.
"Ond doeddwn i ddim yn gw'bod sut allwn i wneud unrhyw beth yn wahanol nag oeddwn i'n gwneud yn barod.
"Nawr fy mod i'n athrawes dwi'n gweld e fel cryfder."
Beth yw dyslecsia?
Anhawster dysgu cyffredin yw dyslecsia, sy'n gallu achosi heriau gyda darllen, ysgrifennu a sillafu.
Dywed GIG Cymru, dolen allanol ei fod yn wahanol i anabledd dysgu, ac nad yw'n effeithio ar ddeallusrwydd person.
Mae dyslecsia yn broblem gydol oes a all gyflwyno heriau yn ddyddiol.
Mae gan tua un o bob 10 o bobl yn y DU ryw radd o ddyslecsia.
Mae Megan wedi llwyddo i raddio o'r brifysgol a bellach yn gweithio fel athrawes ysgol gynradd.
"Yn fy hyfforddiant dysgu roedd sylw wastad yn cael ei dynnu at gamgymeriadau bach yn fy ngwaith papur," meddai.
"Ond rydw i'n dda efo pethau fwy ymarferol yn naturiol, ac roedd hyn yn rhoi hyder i fi ar gyfer pethau ysgrifenedig.
"Nawr fy mod i'n athrawes dwi'n gweld e fel cryfder fod gen i ddyslecsia. Dwi'n meddwl yn wahanol ac yn cydymdeimlo efo plant sydd ag anawsterau dysgu.
"Nawr mae ysgolion yn llawer mwy blaengar - byddwn i wedi hoffi'r un cymorth pan o'n i yn ysgol."
Yn dilyn prawf Megan fe wnaeth fy rhieni awgrymu y dyliwn i hefyd fynd am brawf.
Fel chwiorydd, gan ein bod ni'n uniaethu efo ein hanawsterau, roeddwn yn meddwl ei fod yn normal.
Ond pan gaeth Megan ddiagnosis, dechreuais ail-edrych ar bethau.
Mae Amanda Kelland yn asesydd swyddogol ar gyfer dyslecsia ac yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol De Cymru. Mae'n gweithio gyda phlant yn eu harddegau ac oedolion.
Esboniodd er bod y pwyslais yn aml ar ddarllen, ysgrifennu a sillafu pan yn siarad am symptomau dyslecsia, weithiau mae'n arddangos mewn ffyrdd llai confensiynol.
Mae hyn yn rhywbeth wnes i ddarganfod pan wnes i dderbyn diagnosis. Roedd fy symptomau yn fwy cudd fel oedolyn.
Rhai o arwyddion amlwg dyslecsia
"I rywun yn y brifysgol, efallai na allant gadw i fyny â'r llwyth gwaith neu eu bod yn teimlo wedi'u llethu gyda'r llwyth gwaith," meddai Amanda.
"Mae cyflymder gweithio yn llawer arafach na rhywun sydd heb ddyslecsia. Cadw gwybodaeth hefyd.
"Felly yn y dosbarth, mae'n aml yn anodd cymryd nodiadau ac eto prosesu'r hyn y mae'r darlithydd yn ei ddweud ac ysgrifennu nodiadau ar yr un pryd.
"Symptom arall yw cael eich syniadau eich hun yn ysgrifenedig - ffeindio fe'n anodd gwybod ble i ddechrau. Mae hyn yn aml yn arwydd nodweddiadol bod rhywun yn cael trafferth gyda'u hastudiaethau.
"Yn aml gall hynny achosi teimladau isel o hunan hyder isel ac hyd yn oed arwain at iselder... ac weithiau problemau lles sy'n dod yn amlycach na'r problemau sy'n seiliedig ar lythrennedd."
Roedd chwaraeon yn rhywbeth oedd yn helpu efo fy nheimladau cyffredinol o hunanhyder isel yn tyfu lan.
Felly wnes i siarad efo fy hyfforddwr Huw James sydd yn gweithio efo Criced Cymru, wnaeth ddim cael diagnosis tan ei fod yn 38 oed.
"Roedd cael diagnosis yn relief, roedd e fel bod fy mhlentyndod yn yr ysgol yn gwneud synnwyr o'r diwedd," meddai.
"Pe bawn i wedi cael diagnosis yn ôl yn yr ysgol rwy'n meddwl y byddai canlyniad gwahanol wedi bod gyda graddau, wrth i mi adael yr ysgol yn 16 heb unrhyw gymwysterau TGAU go iawn.
Ychwanegodd: "Rwy'n meddwl bod chwaraeon wedi helpu fi llawer, fe roddodd hyder i mi. Roedd yn rhoi level playing field ar bethau i fi."
'Rhaid bod yn amyneddgar'
Rwyf nawr yn fy ail flwyddyn yn astudio Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae cael diagnosis dros yr haf wedi rhoi mynediad i fi i grant DSA (Disabled Student Allowance), amser ychwanegol mewn arholiadau a sesiynau cyngor ar sut i ddelio efo anawsterau dyslecsia.
Er hyn, y rhan fwyaf buddiol o gael diagnosis yw'r effaith ar fy iechyd meddwl.
Mae wedi helpu fi ddeall pam rwyf yn cael anawsterau, ac yn helpu fi i fod yn fwy amyneddgar gyda fy hun.
Mae ffocysu ar fy hobïau fel cerddoriaeth a chwaraeon yn helpu efo hyder pan mae gwaith prifysgol yn anodd.
Ac mae modd i mi droi at ysbrydoliaeth gan bobl eraill, fel fy chwaer Megan, sy'n profi bod modd llwyddo efo dyslecsia.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2019