Gwyneth Keyworth: Actio, dyslecsia ac Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae Gwyneth Keyworth yn wyneb adnabyddus ar S4C, mewn cyfresi fel Bang a Craith.
Yn ddiweddar mae'r actores o Aberystwyth, wedi bod yn actio rhan Becka Cole yn The Trouble with Maggie Cole gyda Dawn French ar ITV1. Hefyd gallwch ychwanegu cyfresi Defending The Guilty, Game of Thrones, The Crown a Black Mirror at y rhestr o'i rhannau teledu.
Ond tra bod gwaith ffilmio ar stop am gyfnod, a'r wlad yn hunan ynysu, cafodd Cymru Fyw sgwrs ffôn gyda Gwyneth am ei gyrfa a'i bywyd fel actores:
Lle wyt ti'n hunan ynysu ar hyn o bryd?
Rwy' yn Llundain, dwi'n byw efo dau arall sy'n hunan gyflogedig, felly rydyn ni i gyd yn yr un fath o sefyllfa ar hyn o bryd. Ni wedi bod yn cadw ein hunain yn brysur yn 'neud music videos a dwi wedi darllen lot.
Dwi'n colli teulu wrth gwrs, bysen i wedi hoffi mynd nôl i Aber. Ond allai ddim cwyno. Y peth pwysig yw bod pawb yn saff.
Sut mae'r coronafeirws yn effeithio arnat ti?
O ran gwaith, ddylen i fod yn Efrog Newydd ar hyn o bryd yn actio mewn sioe o'r enw The Jungle yn theatr St Ann's yn Brooklyn.
Ni'n gobeithio gallu mynd mas yna eto ym mis Tachwedd, ond dwi fod 'neud ail gyfres o Defending The Guilty ym mis Medi. Ar hyn o bryd does gen i ddim syniad beth sydd o fy mlaen i, ond fi'n trio cadw yn positif.
I ryw raddau, fi'n eitha' well suited i hyn oherwydd dyma'r ffordd mae actorion yn byw 'ta beth. Mae 'na lot o ansicrwydd, ond mae'n waeth nawr.
O lle wyt ti'n dod a phryd ddechreuaist ti actio?
Dwi'n dod o Bow Street, ar bwys Aberystwyth.
Roedd pawb yn galw fi'n freuddwydiwr yn yr ysgol, o'n i wastad yn cael stŵr am beidio canolbwyntio, felly o'n i'n gwybod bo' fi ddim yn debygol o fynd mewn i unrhyw beth rhy academaidd ar ôl gadael ysgol.
O'n i ddim yn gwybod nes i fi adael ysgol, mod i'n dyslecsig. O'dd pobl yn meddwl mod i ddim yn canolbwyntio, ond achos y dyslecsia o'n i'n methu, ac o'n i'n colli hyder.
O'n i braidd yn swil, ac oedd Mam a Dad eisiau fy annog i fagu hyder, felly es i ar gwrs actio yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth a gwir fwynhau.
Wedyn fe wnes i ymuno â chwmni theatr gyda Buddug James Jones yn Neuadd Rhydypennau o'r enw Licris Olsorts.
Pan o'n i'n 15 oed, fe wnaeth Buddug yn anffodus farw, oedd yn ergyd fawr i fi. Cyn iddi farw, roedd hi wedi sôn wrtha i i drio ar gyfer Theatr Genedlaethol Prydain.
Achos bod y dyslecsia ddim wedi cael ei ddeiagnosio ar y pryd, wnaeth hynny fy ngwthio i mewn i fyd y ddrama yn fwy mewn ffordd, oherwydd dyna'r unig beth o'n i'n gwybod mod i'n dda ynddo - a dydy e ddim yn bwysig bo fi methu sillafu!
O'n i'n aml yn teimlo mod i ddim yn ddigon da yn yr ysgol, a phan o'n i'n mynd i actio yn Neuadd Rhydypennau a Chanolfan y Celfyddydau, o'n i'n cael dianc.
Sut ddechreuodd dy yrfa broffesiynol?
Yn yr haf cyn i fi ddechrau yn y chweched uchaf yn yr ysgol, fe dreuliais i amser gyda chwmni Theatr Ieuenctid Prydain yn Llundain. A dyna pryd wnaeth rhai asiantau ddweud bod gyda nhw ddiddordeb yn fy nghynrychioli i fel actores.
Dwi'n cofio ffonio Mam yn dweud 'mae'r asiant mawr yma moy'n fy nghynrychioli i' ac oedd rhaid i fi ofyn iddi beth mae asiant yn ei wneud? Oedd gen i ddim syniad - merch o Aberystwyth, wedi cael ei hun mewn i actio achos ei bod hi'n dyslecsig, o'n i ddim yn gwybod beth i 'neud!
Tra mod i'n neud fy Lefel A yn Aberystwyth, o'n i'n teithio ar y trên i Lundain bob hyn a hyn, yn codi am 5 y bore, cael clyweliad 15 munud a theithio nôl, a gwneud fy ngwaith ysgol yn y nos.
Dwi dal efo'r un asiant nawr, a wedi bod ers dros ddeng mlynedd.
Sut brofiad oedd symud i Lundain mor ifanc, ac mor fuan ar ôl dechrau gweithio fel actores?
Es i yno yn 19 oed, ac o'n i'n rili stryglo. Yn sydyn, roedd popeth yn fy mywyd i wedi newid. Cyn hynny r'on i'n byw adre gyda Mam a Dad ac yn gweithio mewn caffi a thafarn yn Aberystwyth, rhwng jobs actio, i ennill arian.
Roedd fy ffrindiau yn y brifysgol, ac oedd rhaid i fi dalu council tax... o'n i'n teimlo mod i wedi heneiddio tua deg mlynedd mewn blwyddyn!
Ond o'n i'n 'nabod [yr actor] Taron Egerton, o Aber, felly o'n i'n byw gyda fe am gyfnod, pan roedd e yng ngholeg RADA.
O'n i'n teimlo'n unig, ac yn colli adre a cholli siarad Cymraeg pob dydd. Roedd pawb yn dweud 'dyna cool dy fod yn neud yr holl jobs ma' ond oedd e i gyd yn overwhelming, oedd e'n naid mawr.
O'n i'n gweithio yn galed iawn, ac roedd 'na lot o ansicrwydd yn mynd o glyweliad i glyweliad. Fe wnes i benderfynu mod i am fynd i goleg drama, a cefais fy nerbyn i RADA.
Roeddwn i'n diodde' o ddiffyg hyder ar y pryd, ac o'n i'n meddwl 'unrhyw funud mae pobl yn mynd i sylweddoli mod i'n actores wael, a ddylen i ddim fod yn 'neud hyn'!
Felly pan ges i mewn i RADA o'n i'n meddwl bydde'r hyder yn cynyddu. Dwi'n actor gwell ar ôl bod 'na.
Sut wyt ti'n ymateb i sylwadau a beirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol?
'Sai'n poeni cymaint erbyn hyn, ond alla i ddim gwylio dim byd dwi 'di bod ynddo am o leia' blwyddyn. Fi'n hunan feirniadol iawn achos fi'n caru actio gymaint, dwi'n berffeithydd fel actor, yn 'neud lot fawr o ymchwil i'r rhannau dwi'n chwarae. Fi moy'n bod mor dda ag y galla i fod.
Fy motto i ydy, take the work seriously, but not yourself.
'Sai'n cymryd lot o sylw o beth mae pobl eraill yn dweud. Mae Twitter yn llawn pobl bored sydd jyst eisiau dweud rhywbeth. 'Sdim pwynt cymryd e i galon.
Cefaist dy enwebu yng nghategori Actores Orau BAFTA Cymru yn 2018 am chwarae cymeriad Megan yn Craith. Sut brofiad oedd ei chwarae hi?
Y rhan fwya' heriol dwi wedi gael yn sicr ydy Megan yn Craith / Hidden [merch ifanc cafodd ei chipio a'i dal yn gaeth a'i chamdrin]. Fe wnaeth y cymeriad effeithio arna i, does dim arall wedi effeithio arna i yn debyg.
Wnes i fwynhau ei actio ond wnes i ddim mwynhau adegau ohono fe, oedd e'n boenus ac yn intense, ond fi'n falch wnes i fe. Pan ddarllenes i'r sgript, o'n i'n teimlo, 'fi'n nabod y ddynes 'na, alla i berfformio hi. Fi 'di gweld elfennau o hyn yn y byd a dwi angen chware'r rôl hyn'.
Roedd Megan yn diodde' o iselder, a lot o'r amser o'n i'n gallu uniaethu gyda hi - y pwysau o gael y graddau iawn, yn enwedig yn y gymuned Gymraeg.
Ti'n gweld Megan yn ymladd yn ôl, a dyna o'n i'n mwynhau gyda hi. Er ei bod hi'n victim, odd hi ddim am aros fel un, oedd hi am newid y sefyllfa.
Oedd 'na rai pobl ddim yn teimlo'n gyfforddus yn gweld dynes yn cael ei churo [yn Craith], a fi'n deall yn iawn pam fydde pobl yn teimlo hynna. Ond o'n i'n gwybod, yn bersonol mod i wedi 'neud yr holl waith o'n i'n gallu i 'neud y portread mor real â phosib ac mor gywir ag y gallen i.
Fi'n meddwl mae'n bwysig ein bod ni yn cael y sgyrsiau 'ma ynglŷn â beth ddylen ni ddangos ar y teledu, o ran merched a'u cyrff nhw, ac yn y blaen. Felly os oedd fy rhan i yn Craith yn cychwyn y sgwrs yna, wedyn dwi'n hapus am hynny.
Rwyt wedi sôn am y cyfleoedd gest ti yn Aberystwyth, mae sawl actor enwog yn dod o'r dref. Beth yw'r cysylltiad?
Yr hyn sy'n cysylltu ni gyd... fi, Jacob Ifan [roedd Gwyneth a Jacob yn actio gyda'i gilydd ar Bang], Taron Egerton, Hedydd Dylan, Sam Ebeneser ac y blaen... ydy Canolfan y Celfyddydau, a'r cyfleoedd gafon ni i actio yn y sioeau yno yn Aberystwyth.
Pan enillodd Taron y Golden Globe [am chwarae Elton John yn y ffilm Rocketman] - o'n i'n chuffed to bits, o'n i'n sgrechen ar y ffôn gyda fe!
Beth sydd ar y gweill nesaf?
Dwi'n lwcus iawn bod 'na brosiectau ar y gweill ar ôl i'r coronafeirws ddod i ben - pryd bynnag fydd hynny!
Hefyd o ddiddordeb: