Y Bencampwriaeth: Caerdydd 0-1 Milwall

  • Cyhoeddwyd
Tom BradshawFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Y Cymro, Tom Bradshaw, a sgoriodd i Milwall

Roedd yna siom i gefnogwyr yr Adar Gleision ddydd Sadwrn wedi colled arall ac fe fuodd rhai o'r cefnogwyr yn protestio y tu allan i Stadiwm Dinas Caerdydd cyn y gic gyntaf.

Roedd rhyw gant o brotestwyr yn galw ar Vincent Tan a'r bwrdd i ymddiswyddo gan weiddi "Ry ni eisiau'n clwb yn ôl".

Daw'r cwynion wrth i'r clwb chwilio am eu trydydd rheolwr y tymor hwn ac mae'r cefnogwyr yn anhapus bod y tîm tua gwaelodion y Bencampwriaeth.

Millwall oedd yr ymwelwyr - tîm sydd yn agos iawn at y safleoedd ail gyfle.

Ar ôl 26 munud fe wnaeth y Cymro Tom Bradshaw, a ddechreuodd ei yrfa gydag Aberystwyth, roi y Llundeinwyr ar y blaen gydag ergyd troed chwith.

Prin oedd cyfleoedd Caerdydd er iddyn nhw gael digon o feddiant ond roedd yr ymosod yn ddiffygiol.