Cwpan Her Ewrop: Dreigiau 25-30 Lions

  • Cyhoeddwyd
LionsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Francke Horn ac Edwill Van der Merwe sgoriodd geisiau'r hanner cyntaf i'r Lions ond yna roedd tri chais i'r Dreigiau

Mae'r Dreigiau wedi cyrraedd rownd 16 olaf Cwpan Her Ewrop er iddynt golli yn erbyn y Lions o bum pwynt brynhawn Sul yn Ystrad Mynach.

Will Reed o'r Dreigiau sgoriodd y cais cyntaf, a hynny o fewn chwarter awr, ond y Lions a wnaeth reoli'r hanner cyntaf wedi hynny diolch i geisiau Francke Horn ac Edwill Van der Merwe a phum cic gosb.

Roedd y sgôr ar hanner amser yn 5-27.

Roedd hi'n ymddangos mai'r Lions fyddai'n rheoli'r ail hanner hefyd wrth i Jordan Hendrikse sicrhau cic gosb arall wedi 44 munud, ond cyn diwedd y gêm roedd yna geisiau i Aki Seiuli, Jordan Williams a Rio Dyer a chic gosb i JJ Hanrahan o'r Dreigiau.

Y sgôr terfynol oedd 25-30 ac mae'r ddau bwynt bonws yn golygu bod y Dreigiau wedi sicrhau lle yn 16 olaf Cwpan Her Ewrop, pan fyddan nhw'n teithio i Glasgow.

Os ydyn nhw'n ennill yr ornest honno ddechrau Ebrill, fe fyddan nhw wedyn yn wynebu'r Lions neu Racing 92 yn yr wyth olaf.

Pynciau cysylltiedig