Diffyg eira i sgïo 'yn batrwm sy'n mynd i barhau'

  • Cyhoeddwyd
Eirafyrddwr ar lethr artiffisial yn Schwarzsee, yn Y Swistir ddiwedd Rhagfyr 2022Ffynhonnell y llun, ANTHONY ANEX/EPA-EFE/REX/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl cyrchfan sgïo wedi gorfod addasu wrth i lai o eira syrthio na'r arfer y gaeaf yma

Mae arbenigwr hinsawdd wedi rhybuddio bod y tymor sgïo eisoes wedi byrhau a bydd diffyg eira ar lethrau "yn mynd i fod yn batrwm sy'n parhau".

Mae 'na bryder cynyddol hefyd am effaith newid hinsawdd ar fusnesau sy'n dibynnu ar y tymor sgïo i oroesi.

Ar draws y cyfandir mae'r tymor sgïo yn cynnal busnesau, gan gynnwys yma yng Nghymru.

Ac yn dilyn dechreuad gwael i'r tymor sgïo oherwydd tywydd cynhesach na'r arfer, mae rhai'n pryderu am effeithiau hirdymor newid hinsawdd ar y diwydiant.

'Rhewlifoedd wedi crebachu'

Un o rheini ydy Bedwyr ap Gwyn, sydd â busnes hyfforddi eirafyrddio yn Llandudno. Yn eirafyrddiwr brwd ei hun, mae wedi sylweddoli ar effeithiau newid hinsawdd ers dechrau eirafyrddio yn Ffrainc 15 mlynedd yn ôl.

"Dwi'n bennaf yn mynd i'r Alpau yn Ffrainc i eirafyrddio. Un peth sy'n sicr yw bod y rhewlifoedd wedi crebachu yn ystod y cyfnod byr dwi 'di bod wrthi.

"O ran newid yn hyd y tymor sgïo, mae 'na ambell i flwyddyn dda ac ambell i flwyddyn wael. Ond, dwi'n credu bod y blynyddoedd gwael yn dod yn amlach nag o'n nhw falle 20 mlynedd yn ôl.

"Hefyd, eleni oedd y tro cyntaf i fi gofio lle'r oedd ardal mor eang wedi'i effeithio. Roedd yr Alpau i gyd yn wyrdd - gwartheg oedd yn pori'r piste. Ac roedd lot o'r sgiwyr wedi troi'n ôl i feicio mynydd i geisio achub eu gwyliau.

"Mae'n sicr bod rhywbeth yn digwydd ac mae'n drist o ran yr effaith mae hynny'n cael ar y cymunedau 'na sy'n dibynnu ar y diwydiant."

Mae Bedwyr wedi hyfforddi eirafyrddio ers 2008 ar lethr plastig canolfan sgïo Llandudno.

"Mae'r profiad o eirafyrddio ar blastig o'i gymharu i eira go iawn yn gwbl wahanol, ond mae'n ffordd effeithiol o ddysgu."

Disgrifiad o’r llun,

Bedwyr ap Gwyn yn eirafyrddio i lawr y llethr yn Llandudno

Ond gyda sawl un o lethrau enwog Ewrop yn wyrdd yn lle gwyn dros y Nadolig, mae Bedwyr yn "poeni" am ddyfodol y diwydiant.

"Mae rhywun yn poeni am yr effaith ar y busnes, wrth gwrs, ond mae'n eilradd i'r broblem ehangach o gynhesu byd-eang. Byddwn i'n swnio'n eithaf hunanol taswn i just yn dweud fy mod i'n poeni amdana i fy hun.

"Dwi'n meddwl un o'r pryderon os 'dan ni'n sôn am yr economi yn gyffredinol ydy'r bobl yna sy'n byw trwy'r flwyddyn yn yr Alpau ac angen tymor y gaeaf i oroesi gweddill y flwyddyn.

"Maen nhw 'di colli Nadolig a'r flwyddyn newydd eleni a 'swn i'n meddwl, yn enwedig ar ôl Covid, bod hwnna'n mynd i fod yn dipyn o gelc iddyn nhw.

"Felly, ie, mae yna elfen o bryder yn hunanol wrth gwrs, byswn i'n dweud celwydd os na, ond, hefyd pryderu am y cymunedau yna sy'n llwyr ddibynnol ar y tymhorau gaeaf yma, yn sicr."

Mae sgïo yn hynod o boblogaidd ym Mhrydain gyda miliynau o bobl yn teithio i lethrau Ewrop pob blwyddyn.

Ac nid dyma'r tro cyntaf i rai gael eu siomi gan ddiffyg eira tra ar eu gwyliau yno.

Ond mae gwledydd ar draws Ewrop wedi profi gaeaf cynhesach na'r arfer hyd yn hyn.

Yn ôl meteorolegwyr, cofnodwyd y diwrnod cynhesaf erioed ym mis Ionawr mewn o leiaf wyth gwlad gan gynnwys Gwlad Pwyl, Denmarc, y Weriniaeth Siec, Yr Iseldiroedd, Belarws, Lithwania a Latfia.

Yn Bilbao yn Sbaen cofnodwyd tymheredd o 24.9C ar ddechrau mis Ionawr, sef record yno hefyd.

'Tymor yn fyrrach yn barod'

Yn ôl un arbenigwr hinsawdd nid digwyddiad unwaith ac am byth yw hwn

"Mae'r delweddau y' ni'n gweld ar hyn o bryd yn mynd i fod yn batrwm sy'n parhau," meddai Steffan Griffiths.

Disgrifiad o’r llun,

Parhau i grebachu bydd rhewlifoedd yn ôl yr ymchwil diweddaraf, medd Steffan Griffiths

"Ers dechrau'r 20fed ganrif mae tymereddau wedi cynhesu rhyw 2C ar draws Ewrop o'i gymharu gyda rhyw 1.1C mewn rhannau eraill o'r byd.

"Ac mae 'na ymchwil diweddar sy'n dangos dros y 50 mlynedd diwethaf mae'r eira sy'n aros ar lawr yn yr Alpau wedi lleihau rhyw 36 diwrnod ar gyfartaledd. Felly, mae'r tymor yn fyrrach yn barod.

"Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, erbyn diwedd y ganrif mae disgwyl bydd trwch yr eira wedi lleihau rhyw 90% ar lethrau isaf Alpau Ewrop.

"Hyd yn oed erbyn canol y ganrif bydd y trwch wedi lleihau rhyw 25%, a bydd rhewlifoedd yr Alpau yn crebachu rhyw 80%, gan hyd yn oed diflannu'n gyfan gwbl mewn rhai mannau.

"Felly maen nhw'n ddelweddau brawychus a trist iawn ond yn ddelweddau bydd angen i ni ddod yn gyfarwydd â nhw."

Yn ôl Steffan Griffiths fe fydd y newidiadau yma'n dechrau cael effaith economaidd ar wledydd Ewrop.

"Mae'r sefyllfa yn creu problemau ehangach hefyd," dywedodd. "I ddechrau bydd effaith amlwg ar economi'r ardaloedd yma. Maen nhw'n ddibynnol iawn ar dwristiaeth y gaeaf - er enghraifft, y tymor sgïo.

"Ond hefyd, mae'r eira sy'n disgyn yn y gaeaf yn bwysig i'r ardaloedd bellach lawr y dyffryn.

"Mae 'na bobl sy'n ddibynnol iawn ar y dŵr tawdd ar gyfer amaethyddiaeth a diwydiant. Felly mae'r siawns o sychder yn ystod weddill y flwyddyn yn cynyddu pan bod llai o eira'n disgyn."