Y Gynghrair Genedlaethol: Gateshead 0-3 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Paul MullinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Paul Mullin drydedd gôl Wrecsam i goroni buddugoliaeth gyfforddus

Mae gobeithion y Dreigiau o ddyrchafiad yn gryfach nag erioed wrth iddynt gamu i frig y tabl.

Er yn ddi-sgôr am awr, ddoth Tom O'Connor i'r adwy drwy sgorio'r gôl holl bwysig.

Gwnaeth Ollie Palmer y gêm y saff chwe munud yn ddiweddarach cyn i Paul Mullin ychwanegu ei 20fed o'r tymor yn ystod amser ychwanegol.

Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn camu uwchben Notts County i frig y tabl gyda thriphwynt o fantais.