Prysurdeb gweithwyr pentref eiconig Portmeirion

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Meurig Jones yw Rheolwr Lleoliad Portmeirion

Fel arfer ar brynhawn braf, mae sŵn dwsinau o bobl i'w clywed yn crwydro o amgylch pentref Portmeirion.

Ond, ar hyn o bryd, tan ddiwedd mis Ionawr, mae'r pentref ar gau i ymwelwyr, sy'n rhoi cyfle i'r gweithwyr gyflawni gwaith cynnal a chadw hanfodol o amgylch y pentref ac i'r lletyau gwyliau.

Am dair wythnos, mae'r staff yn brysur yn peintio, garddio, a threfnu priodasau a gwyliau i ymwelwyr, wrth i garfan arall o'r 250 o bobl sy'n cael eu cyflogi gael gwyliau haeddiannol.

Meurig Jones yw Rheolwr Lleoliad Portmeirion, ac mi roddodd gyfle i Cymru Fyw gael cip tu ôl y llenni, i weld beth sy'n mynd ymlaen yn y pentref cyn i'r giatiau agor unwaith eto.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Portmeirion wedi'i leoli ar lan Afon Dwyryd yng Nghwynedd

Bob blwyddyn mae 250,000 o bobl yn ymweld â phentref gafodd ei greu allan o weledigaeth un dyn.

Yn 1925 roedd y pensaer Clough Williams-Ellis yn chwilio am leoliad i greu pentref a gwireddu ei weledigaeth.

Wedi 20 mlynedd o chwilio, daeth ar draws llecyn ar lan yr afon Dwyryd ger Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd.

'Lle sbeshial'

Dros gyfnod o 50 mlynedd tan 1976, fe drodd y plasty yn westy a chynllunio adeiladau mewn arddull pentref Eidalaidd.

Roedd y pentref hefyd yn leoliad ffilmio cyfres The Prisoner nôl yn 1967, gyda Patrick McGoohan yn serennu fel y prif gymeriad.

Yn ystod mis Ionawr, dim ond ychydig o'r staff sy'n gweithio ar leoliad. Mae gan bawb ei swydd, boed hynny yn glanhau'r cerrig, paentio'r adeiladau lliwgar, neu gymryd archebion yn y swyddfa.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gweledigaeth y pensaer, Syr Clough Williams-Ellis oedd Portmeirion, ac mi gymrodd hi 50 mlynedd iddo wireddu ei freuddwyd ac adeiladu'r pentref

Yn ôl Meurig mae'r rhan fwyaf o'r staff i gyd yn byw o fewn 10 milltir i'r pentref, gydag ambell un yn gallu cerdded i'w gwaith pob dydd.

Un sydd wedi gweithio i'r cwmni ers naw mlynedd yw Fflur Jones. Gwaith Fflur yw trefnu priodasau a bod yn bwynt cyswllt gyda chyflenwyr a phobl sydd eisiau archebu lle i aros ar eu gwyliau.

"Mae Portmeirion yn le sbesial," meddai.

"Dwi'n byw yng Nghricieth, mae fy nheulu o Penrhyn ac mae Portmeirion ar ein stepen drws.

"Dwi wedi tyfu fyny yma, mae edrych allan drwy'r ffenest a gweld y buildings yn gneud i fi feddwl fy mod i yn yr Eidal.

"Y dŵr a'r mynyddoedd... dwyt ti ddim yn gallu gweithio'n nunlle mwy neis," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Fflur Jones yn gweithio yn Swyddfa Portmeirion

Un arall oedd ar leoliad i lawr yn y gwesty oedd Martin Couture, sy'n gweithio fel Prif Beintiwr Portmeirion.

"Dwi'n gweithio yma ers 46 mlynedd," meddai. "'Nes i ddechrau gweithio yma'n 16 oed."

Un her i Martin a'i griw yw cadw'r pentref i edrych yr un mor lliwgar â gweledigaeth Syr Clough.

"Mae shades yr adeiladau yma i gyd yn newid. Mae'r paent isaf yn dwllach na'r paent welwch chi ar dop adeilad," meddai.

'Cyfrinach y lliw Gwyrdd'

Cyfeiriodd Martin hefyd at liw paent unigryw Portmeirion, sef y lliw gwyrdd.

"Pan oedd Syr Clough Williams-Ellis yn rhoi'r copr ar dop yr adeiladau, roedd o am i natur eu troi nhw'n syth yn wyrdd ond doedd hynny byth yn digwydd.

"Felly daeth fyny efo'r lliw yma. Chai'i ddim deud wrthoch chi be ydi'r mics, mae hynny'n gyfrinach fawr," meddai.

Un peth amlwg iawn am gerdded rownd y pentref oedd bod y gweithwyr i gyd yn siarad Cymraeg.

Dywedodd Malcolm Roberts, sy'n gweithio fel garddwr ers 37 o flynyddoedd ym Mhortmeirion, ei fod yn "le braf i weithio".

"Mae dros 250 yn gweithio yma dros yr haf, ac maen nhw i gyd yn reit local, mae'n le pwysig ar y diawl," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Martin Couture, sy'n gweithio ym Mhortmeirion fel peintiwr ers 47 o flynyddoedd

Wrth i ddiwedd Ionawr nesau, roedd y gweithwyr yn gwneud y mwyaf o'r amser i gael y pentref yn barod. Fel sawl busnes arall yng Nghymru, roedd Portmeirion ar gau am sawl mis yn ystod y pandemig.

Dywedodd Meurig: "Mae maes cerbydau modur newydd wedi agor y llynedd, ac mae cymaint mwy i weld yma. Mae pawb yn credu mai dim ond y pentref a'r gwesty sydd yma."

Ond, mae'r 'Gwyllt', sef yr ardal goediog a'r llwybrau troed, yn cynnig elfen hollol wahanol i bobl. Mae planhigion prin iawn i'w gweld yn y Gwyllt ac "mae rhywbeth gwahanol rownd pob cornel," medd Meurig.

Wrth yrru o amgylch y pentref yn ei gerbyd golff, roedd Meurig yn brysur iawn yn trefnu contractwyr a sicrhau bod popeth yn barod ar gyfer agor y giatiau: "Mae'r staff yma yn wych, mae pawb yn gweithio'n galed er mwyn sicrhau bod popeth yn barod erbyn i ni ail agor.

"Allai ddim aros i groesawu 250,000 o bobl o bob cwr o'r byd yma eto eleni, i un o gorneli cudd a phrydferthaf o Gymru, Portmeirion."

Pynciau cysylltiedig