Pencampwriaeth Rygbi: Dreigiau 28-42 Glasgow Warriors

  • Cyhoeddwyd
Rhodri WilliamsFfynhonnell y llun, Huw Evans Agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhodri Williams ymysg sgorwyr ceisiau'r Dreigiau

Roedd hi'n fuddugoliaeth gyfforddus i'r Warriors wrth i'r tîm o'r Alban wneud y daith i Rodney Parade brynhawn Sadwrn.

Sgoriodd bachwr yr Alban, Fraser Brown, ddau gais tebyg iawn yn yr hanner cyntaf yn dilyn sgôr gynnar Cole Forbes.

Croesodd Duncan Weir hefyd cyn i Stafford McDowell a Sebastian Cancelliere ychwanegu at y sgorfwrdd.

Ond er y perfformiad siomedig, yn fwy calonogol i'r tîm cartref fe gipiodd Chris Coleman bwynt bonws hwyr.

Sgorwyd ceisiau eraill y Dreigiau gan Rhodri Williams, Sio Tomkinson a Taine Basham.

Golyga'r canlyniad fod y Dreigiau bellach yn 15fed yn y tabl.

Pynciau cysylltiedig