Camerâu mewn lladd-dai - rhwystr costus neu fudd?
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder y byddai gwneud hi'n orfodol i osod camerâu cylch cyfyng o fewn lladd-dai yng Nghymru yn effeithio'n fawr ar ladd-dai bach.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiad ar y cam sydd eisoes mewn grym yn Lloegr a'r Alban.
Yn ôl Huw Evans, perchennog Cig Oen Caron yn Nhregaron, bydd y gost ychwanegol yn golygu gorfod codi prisiau eu cynnyrch, a fydd o bosib yn niweidiol i'w fusnes.
Dywed Llywodaeth Cymru bod "mwyafrif helaeth" lladd-dai Cymru â chamerâu eisoes a'u bod eisiau sicrhau'r "un lefel o amddiffyniad" i bob anifail.
"Dyw e ddim yn afresymol ond ma' fe'n gost ychwanegol," meddai Mr Evans.
"A phan chi'n adio hyn i'r costau sydd gyda ni'n barod - hynny yw, cael gwared y gwastraff, cael gwared y gwaed, talu staff yn amlwg, a ma' trydan nawr wedi mynd yn beth mawr i ladd-dai - ma'r costau 'na yn adio fyny.
"Ac ar ddiwedd y dydd, bydd neb yn gallu fforddio i ddod 'ma i ladd eu cynnyrch a bydd y lladd-dy yn gorfod cau."
Does dim anifail yn lladd-dy Cig Oen Caron am fwy na 12 awr. Yn ôl Mr Evans, os oes angen monitro lles anifeiliaid dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar fannau eraill o fewn y maes.
"Bydden nhw ar ffarm trwy eu hoes, ond does neb yn goruchwylio nhw fyny," meddai.
"Ma'n rhwydd i dicio'r bocs i 'weud bod [Llywodraeth Cymru] yn 'neud yn siŵr bod yr anifail yn cael ei ladd yn iawn. Ond odyw e'n wir pryd ma' 'da ni milfeddyg fan hyn trwy'r amser yn watcho'r holl beth yn fyw?"
Ei dad-cu wnaeth sefydlu'r busnes yn 1947, ac yn ôl Mr Evans, anogaeth sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru wrth i fwy o ladd-dai lleol gau yng Nghymru.
"Does dim lot o ni ar ôl yng Nghymru. Dylen ni fod yn cal cefnogaeth dim rhwystre'."
Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd camerâu cylch cyfyng yn galluogi'r oruchwyliaeth dros les yr anifeiliaid.
Bydd angen i fusnesau storio'r deunydd am 90 diwrnod. Bydd gan yr awdurdodau yr hawl i wylio'r deunydd os bod angen.
'Buddion i'r busnes'
O'r 23 lladd-dy yng Nghymru mae 17 wedi gosod camerâu cylch cyfyng yn barod. Mae cwmni Cig Calon Cymru yn Cross Hands wedi gosod 21 camera trwy gydol y safle.
Yn ôl Claire Davies, rheolwr gwerthiant y cwmni, mae'r camerâu yn dod â buddion i'r busnes.
"Ma' anifeiliaid yn gallu bod yn temperamental," meddai. "Ma' peiriannau mawr gyda ni, so rho'r ddau peth yna gyda'i gilydd mae'n gallu bod yn lle peryglus ar adegau.
"Does dim byd gyda ni i guddio. Mae e wedi codi'r safon le ma'r bois sy'n gw'itho yn gwybod bod nhw 'na, does dim dod i ffwrdd wrtho nhw."
Yn ôl llefarydd ar ran yr RSPCA mae'r polisi yn cynnig buddion i fusnesau.
"Bydd yn dda, nid dim ond i'r anifeiliaid sy'n mynd trwodd gan fod yna dryloywder llawn, ond yn dda hefyd i'r ffermwyr a'r lladd-dai," meddai.
"Ry'n ni wedi cael esiamplau o'r blaen ble mae pobl wedi cwyno ynghylch lladd-dai, a ry'n ni wedi edrych at y CCTV ac mae wedi dangos bod dim problem, felly gall fod yn fater o ddiogelwch i'r lladd-dai yn ogystal."
Mae'r rheol wedi bod yn gyfraith yn Lloegr ers 2018 ac yn Yr Alban ers 2021. Ond yn ôl Cymdeithas y Cyflenwyr Cig Annibynnol mae yna wersi i'w dysgu.
"Rydym yn cefnogi pryderon am gostau," meddai llefarydd ar ran y gymdeithas. "Un o'r costau mwyaf dan sylw yw'r swm enfawr o storfa sydd ei angen.
"Bu'n ofynnol i fusnesau bach iawn gael nifer o gamerâu wedi'u gosod pan fydd swyddog yr ASB yn gallu gweld yr ystafell gyfan pan fyddant yn dod i mewn, mae'r busnes mor fach.
"Credwn hefyd nad ydynt wedi cael eu defnyddio i'w llawn botensial. Mae'r ASB yn cyfyngu ar eu defnydd i fonitro lladdwyr lle gallent gynorthwyo milfeddygon yr ASB i wneud eu hasesiad cyn lladd o'r da byw - cyfle a gollwyd yn ein barn ni."
Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 6 Chwefror.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cymryd lles anifeiliaid o ddifrif.
"Mae gan y mwyafrif helaeth o ladd-dai yng Nghymru gamerâu cylch cyfyng, ac rydym am sicrhau fod gan bob anifail yr un lefel o amddiffyniad a dyna pam y gwnaethom yr ymrwymiad i fynnu bod un ym mhob lladd-dy."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd11 Awst 2017