Profiad canser Ifan yn sbarduno teulu i godi arian
- Cyhoeddwyd

Y brodyr - Gruff, Ifan ac Owain
Ym mis Tachwedd 2021 cafodd Linette a Iolo Gwilym alwad ffôn gan gylch meithrin eu mab, Ifan, wnaeth newid eu bywydau. Roedd staff yno wedi gweld fod gan Ifan waed yn ei ddŵr.
Ar ôl gweld eu meddyg lleol ac yna cael profion a sgan yn Ward Dewi yn Ysbyty Gwynedd, Bangor, daeth y newyddion fod gan Ifan diwmorau ar ei arennau a chafodd ddiagnosis o Diwmor Wilms.
Triniaeth
Bu'n rhaid iddo gael chwe wythnos o gemotherapi cyn cael llawdriniaeth i dynnu'r aren ac yna bron i flwyddyn o gemotherapi pellach yn 2022.

Ifan yng nghanol triniaeth
Bu'r driniaeth yn llwyddiant ac erbyn hyn mae'r teulu o Wynedd yn benderfynol o godi arian i'r ysbyty a'r elusennau sy' wedi bod yn gefn iddynt er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad.

Ifan yn canu'r gloch ar ddiwedd ei driniaeth yn Alder Hey
Diolch
Meddai Linette: "Oeddan ni yn gwybod drwy'r holl beth... pan oeddan ni'n cael yr holl gefnogaeth yma oeddan ni'n teimlo, 'sut ydan ni fod i ddiolch i'r bobl yma?' 'Oeddan ni jyst isio diolch yn ofnadwy.
"'Oeddan ni'n gwybod pan daw'r driniaeth i ben, 'da ni'n mynd i neud rhywbeth i godi arian a gobeithio eu galluogi nhw (yr elusennau) i barhau."
Mae'r teulu Gwilym yn codi arian i chwe elusen i ddweud 'Diolch!' gyda gig mawreddog
Gig
Gyda Iolo, tad Ifan, yn gweithio yn Pontio, penderfynodd y teulu drefnu gig teuluol i godi arian i'r ysbytai a'r elusennau sy' wedi eu helpu - mae'n cael ei chynnal ar nos Sadwrn Ionawr 28.
Cytunodd rhai o enwau mawr y byd cerddorol Cymreig i gymryd rhan yn y gig gan gynnwys Yws Gwynedd, Bryn Fôn a'r band a Meinir Gwilym, sef modryb Ifan.
O fewn awr a hanner roedd 560 o docynnau i'r gig wedi gwerthu allan. Yn elwa o'r arian fydd Ysbyty Alder Hey, Ysbyty Gwynedd, Cylch Meithrin Llanrug, The Joshua Tree, Young Lives vs Cancer a Cancer Kickers
Meddai Linette: "Mae o'n dangos y gymuned sy' gynnon ni. Pan dwi'n siarad efo'r bobl yn yr elusennau mawr ac yn ysbyty Alder Hey am be' da' ni wedi ei wneud, maen nhw'n dweud, 'What a community!'"
"Ac mae'n wir - mae ganddon ni gymdeithas sydd yn cefnogi ei gilydd a 'dan ni'n teimlo'r cariad yn bendant."

Y teulu yn mwynhau'r gig