'Rhaid stopio beio'r pandemig am wasanaethau canser'

  • Cyhoeddwyd
Dawn WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Dawn Williams, 32, ddiagnosis, triniaeth a llawdriniaeth o fewn saith mis mewn canolfan yn Ysbyty Gwynedd

Mae'n bryd rhoi sylw ar frys i wasanaethau canser yng Nghymru a stopio beio'r pandemig, yn ôl elusen Tenovus.

Daw'r rhybudd wrth i Rwydwaith Canser Cymru gyhoeddi cynllun tair blynedd i wella canlyniadau canser a phrofiadau cleifion.

Mae'r cynllun i wella'r system, sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth, yn anelu at agor mwy o ganolfannau diagnosis cyflym i leihau faint o amser y mae cleifion yn aros am brofion a thriniaeth.

Ond mae cyfarwyddwr clinigol canser yng Nghymru yn cydnabod mai'r flaenoriaeth yw cynnal safon gwasanaethau yn ystod cyfnod o bwysau mawr ar y gwasanaeth iechyd.

Dywedodd Yr Athro Tom Crosby: "Yn bendant, rydyn ni'n ceisio lleihau amseroedd aros i gleifion sy'n dod mewn i'r system ar ôl cael diagnosis ac wedyn yn aros am driniaeth ac rydyn ni'n ymwybodol bod problemau ar draws yr holl system.

"Ond y broblem fwyaf ar hyn o bryd yw mynediad i gael diagnosis."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Tom Crosby yn cydnabod mai cael mynediad i gael diagnosis yw'r "broblem fwyaf"

Ym mis Tachwedd, bu'n rhaid i bobl oedd yn amau fod ganddyn nhw ganser aros 17 diwrnod ar gyfer eu hapwyntiad cyntaf a 23 diwrnod ar gyfer eu prawf cyntaf, ar gyfartaledd.

"Eleni, rydyn ni'n gobeithio datblygu'r ganolfan ranbarthol diagnostig cyntaf ac mae hynny'n debygol o fod yn ne ddwyrain Cymru," meddai'r Athro Crosby.

Ychwanegodd: "Rwy'n credu dros y ddwy i dair blynedd nesaf rydyn ni eisiau mynd i'r afael â'r rhestrau hir o bobl sy'n aros am brofion a sicrhau bod canlyniadau canser yn gwella oherwydd y gofal sydd ar gael."

Mae mwy na 15,000 o bobl yng Nghymru yn cael eu cyfeirio at wasanaethau canser bob mis oherwydd amheuaeth bod ganddyn nhw ganser ac mae'r mwyafrif (88%) yn darganfod nad oes ganddyn nhw'r salwch.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae tua 1,650 o gleifion yn dechrau triniaeth canser bob mis.

Disgrifiad o’r llun,

Mae cael diagnosis a thriniaeth gynnar yn allweddol bwysig, medd Lowri Griffiths

Mae elusennau a gwleidyddion wedi galw am gynllun i wella canlyniadau canser yng Nghymru ers cryn amser.

Dywedodd Cyfarwyddwr Polisi a Gwasanaethau Tenovus, Lowri Griffiths: "Rydyn ni'n gobeithio yn arw ein bod ni'n medru datblygu gwasanaethau ar gyfer y dyfodol.

"Beth sy'n bwysig yw bod y byrddau iechyd yn gweithio gyda'i gilydd a bod y cynllun yn fwy na geiriau ar ddarn o bapur. Mae angen sicrhau hefyd bod yna ddigon o weithwyr yn y gwasanaeth iechyd i weithredu'r cynllun.

"Mae targedau yn y byd canser yn hollol bwysig. Dyna sut rydyn ni'n sicrhau bod pobl yn dechrau triniaeth mewn hyn a hyn o amser.

"Dyna'r gwahaniaeth rhwng sicrhau bod y canser yn cael ei drin yn y ffordd fwyaf effeithiol, neu yn anffodus ddim.

"Beth sy'n bwysig yw bod pobl yn cael eu trin yn gyflym. Mae rhaid gweithio mewn ffordd gyflym, mae rhaid cael mwy o arian ond mae rhaid gweithio hefyd mewn ffyrdd gwahanol. Mae'n bwysig hefyd bod ein gweithwyr yn y gwasanaeth yn gallu trin pobl fel pobl."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dawn Williams wybod fod canser y fron ganddi y llynedd

Cafodd Dawn Williams, 32, ddiagnosis canser y fron ym Mawrth 2022.

"Ar ôl darganfod lwmp yn y fron ym mis Ionawr, es i at y meddyg teulu ym Menllech.

"Doeddwn i ddim yn poeni ei fod yn unrhyw beth amheus ar y pryd, ond yn teimlo fy mod angen barn feddygol. Ar ôl gweld y meddyg, cefais fy atgyfeirio i Ysbyty Gwynedd i'r Rapid Breast Clinic.

"Cefais apwyntiad drwy'r post bedair wythnos wedyn ac yno cefais fy apwyntiad gyntaf," meddai.

Er bod profiadau unigolion yn amrywio ar hyd a lled Cymru, cafodd Ms Williams ddiagnosis, triniaeth a llawdriniaeth o fewn saith mis.

Ychwanegodd: "Diolch i'r Rapid Breast Clinic a'r adran Oncoleg. Rwyf mor hapus i gael rhannu fy mod nawr yn iach, yn ôl ac yn parhau gyda fy mywyd."

Mae'r clinigau diagnosis cyflym yn rhan o'r cynllun ehangach i fynd i'r afael ag amseroedd aros hir.

'Angen i bawb dynnu at ei gilydd'

Yn ôl Prif Nyrs Macmillan Rhwydwaith Canser Cymru, Bethan Hawkes, prif nod y cynllun yw "lleihau'r amseroedd aros canser a sicrhau'r profiad gorau y gallen ni i gleifion canser.

"Fel rhwydwaith, rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda'r byrddau iechyd ac mae angen i bawb i dynnu at ei gilydd i sicrhau bod y cynllun yn llwyddo."

Dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, er bod "gan y byrddau iechyd yr arian yn eu cyllidebau, eu cyfrifoldeb nhw yw blaenoriaethu" sut mae'r arian yn cael ei wario.

Ychwanegodd Eluned Morgan: "Dros y 10 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi gweld yr arian rydyn ni'n ei wario ar ganser bron yn dyblu, o £300m i £600m."