'Gŵyl Fair Forwyn, dechrau'r gwanwyn'

  • Cyhoeddwyd
'Gŵyl Fair Forwyn, dechrau'r gwanwyn'Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

'Gŵyl Fair Forwyn, dechrau'r gwanwyn'

"Fe ddaw Gŵyl Fair, fe ddaw Gŵyl Ddewi, fe ddaw'r adar bach i ganu.."

Wyddoch chi iddi fod yn arferiad i gynnau canhwyllau yng Nghymru ar 2 Chwefror? Byddai pobl yn cynnau canhwyllau ar ail ddiwrnod y mis byrraf i ddathlu Gŵyl Fair y Canhwyllau.

Mae'r ŵyl yn coffáu puredigaeth y Forwyn Fair gan ei fod yn digwydd 40 niwrnod wedi genedigaeth ei mab, Iesu Grist.

Erstalwm roedd y diwrnod yma yn un pwysig iawn yng nghalendr yr amaethwyr gan ei fod yn arwydd bod y gwanwyn ar ei ffordd. Yn un o garolau gwirod y 17eg Ganrif, caiff yr ŵyl ei galw yn 'Gŵyl Fair Forwyn, dechrau'r gwanwyn'.

Arferion ers talwm...

Roedd yn arferiad i oleuo canhwyllau yn y cartref ar noson Gŵyl Fair. Yn ôl Marie Trevelyan (wedi ei nodi yn llyfr Welsh Folk Customs gan Trefor M Owen), un traddodiad yng Nghymru oedd goleuo dwy gannwyll a'u gosod ar fwrdd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dwy gannwyll

Yna byddai pob aelod o'r teulu fesul un yn eistedd rhwng y canhwyllau. Bydden nhw'n cymryd llymaid o ddiod ac yna taflu'r gwpan yn ôl dros eu pennau. Os byddai'r gwpan yn disgyn â'i ben i fyny, roedd yn arwydd o fywyd hir. Ond os byddai'n glanio wyneb i wyred, credir y byddai'r person yn marw'n ifanc.

Dyma Twm Elias, sy'n arbenigo mewn llên gwerin yn egluro mwy am yr ŵyl.

"Y 'canhwyllau' yw'r rhai a ddefnyddir i oleuo'r eglwys ar gyfer yr offeren. Ond mae'n ddifyr meddwl bod hon yn tarddu o hen ŵyl baganaidd a elwid yn Ŵyl y Goleuni. Pwrpas yr hen ŵyl honno oedd ceisio sicrhau ffrwythlondeb y ddaear ar gyfer y cnydau oedd yn cael eu hau yn awr.

Un o ŵyliau mawr yr hen Geltiaid

"Roedd hon yn disgyn hanner ffordd union rhwng Calan Gaeaf (1af Tachwedd) a Chalan Mai (1af Mai) ac yn un o'r wyth gŵyl fawr flynyddol a ddethlid gan yr hen Geltiaid paganaidd. Yn y cyfnodau cynnar cawsai ei nodweddu gan danau coelcerthi.

Ffynhonnell y llun, Rhys Thomas.
Disgrifiad o’r llun,

Hirddydd haf yn siambr gladdu, Bryn Celli Ddu

"Yn y rhain y llosgid y celyn gwarcheidiol oedd wedi'i gadw'n ofalus ers y Dolig (neu, yn hytrach, y gwyliau paganaidd oedd yn dathlu'r dydd byrraf). Taenid lludw'r celyn wedyn ar y pridd fel gwrtaith i'r ŷd fyddai'n cael ei hau yr adeg yma.

Croesawu'r dydd yn ymestyn

"Roedd Gŵyl y Goleuni felly yn adlewyrchu goleuni'r coelcerthi a hefyd, wrth gwrs, byddai'n cydnabod yr estyniad amlwg oedd i'w weld erbyn hyn yn hyd y dydd wrth i'r haul gryfhau a dechrau ennill y frwydr dymhorol yn erbyn y tywyllwch.

"Hyd at ganol y 18fed Ganrif roedd cryn fri ar Ŵyl Fair y Canhwyllau. Byddid yn canu carolau arbennig a byddai pobl yn gwaseila o ddrws i ddrws. Ond gyda thwf Protestaniaeth ac Anghydffurfiaeth dirywiodd yr arfer wrth i'r sylw i'r Fair eglwysig leihau. Erbyn hyn, heblaw am wasanaethau eglwysig, chydig iawn o sylw gaiff Gŵyl Fair y Canhwyllau ar y dyddiad hwn."

Roedd yr Hen Ŵyl Fair yn arfer cael ei dathlu ar Chwefror 13, cyn newid o Galendr Julius i Galendr Gregori yn 1752.

Dyfyniad o lyfr Tro Drwy'r Tymhorau gan Twm Elias.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig