Pentref Caio yn dathlu'r 'gêm gyntaf o rygbi yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
Darlun o gem rygbi cynnarFfynhonnell y llun, ilbusca

Mae pentref bach yn Sir Gaerfyrddin yn cynnal dathliad ar ôl darganfod cofnod sy'n dweud mai yno y cafodd y gêm gystadleuol gyntaf erioed o rygbi ei chwarae yng Nghymru.

Coleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan sy'n cael ei ystyried fel man geni rygbi yng Nghymru; ond credir bellach fod y gêm gyntaf rhwng dau dim gwahanol o Gymru wedi ei chwarae rhwng Coleg Llanbedr a Choleg Llanymddyfri ym mhentref Caio, a hynny am ei fod hanner ffordd rhwng y ddau dîm.

Mae'r cae lle cynhaliwyd y gêm honno yn y 19eg Ganrif bellach yn dir ffermio ond ddydd Gwener, 2 Rhagfyr, bydd yn troi nôl yn gae rygbi wrth i'r bêl hirgron gael ei chicio arno unwaith eto mewn ail-gread o'r achlysur.

Bydd timau o gyn-fyfyrwyr y ddau goleg yn mynd i ysbryd y cyfnod drwy wisgo cit hen ffasiwn a chael sesiwn o rygbi.

Oherwydd rheolau iechyd a diogelwch ac yswiriant chawn nhw ddim chwarae gêm iawn ond bydd hynny yn digwydd ddydd Sadwrn, 3 Rhagfyr, yng Nghlwb Rygbi Llanbed fel parhâd o ddathliadau 200 mlwyddiant y coleg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae pentref Caio hanner ffordd rhwng Llanbed a Llanymddyfri

Mae Ieuan Davies yn gyn-fyfyriwr yn Llanbed ac yn un o drefnwyr y penwythnos; mae'n egluro bod yr honiad am Caio wedi dod i'r fei yn y llyfr The Fighting Parsons gan Selwyn Walters.

Ynddo sonnir am stori yn y gyfrol Sport in Britain: Its Origins and Development gan yr Athro HA Harries, sy'n nodi bod y gêm gyntaf erioed wedi ei chwarae rhwng timau colegau Llanbedr Pont Steffan a Llanymddyfri yn 1856 ar y cae yn Caio oherwydd ei leoliad cyfleus i'r ddau dîm.

Mae Ieuan Davies yn egluro bod ansicrwydd am y dyddiad a bod 1866 yn fwy tebygol: felly dyna'r dyddiad sy'n cael ei ddathlu.

'Y rheolau cyntaf'

"Roedd gêm wedi cael ei chwarae o fewn timoedd o fewn y colegau {ers tua 1850], ond rhwng timau gwahanol, dyma'r gêm gyntaf," meddai.

"Doedd dim byd tebyg i'r WRU i gael pryd hynny a bydde'r ddau dîm wedi cwrdd â'i gilydd yng Nghaio achos oedd Caio hanner ffordd rhwng Llanbed a Llanymddyfri a bydden nhw wedi cytuno ar reolau ar gyfer chwarae'r gêm.

"Felly rheolau cyntaf rygbi wedyn fyddai rheina.

"Mae'n ddiddorol iawn - ond i feddwl bod e wedi digwydd mewn pentref bach fel Caio, mae'n anhygoel."

'Syrpreis' i'r pentref

Roedd hyn i gyd yn newyddion i bawb yn y pentref meddai Carys Hâf, un o'r criw lleol sy'n helpu i drefnu'r digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, carys haf
Disgrifiad o’r llun,

Er bod cysylltiad cryf gyda rygbi yn hanes ei theulu doedd gan Carys Hâf ddim syniad mai yn ei phentref hi y cynhaliwyd y gêm gyntaf yng Nghymru

"O'n i byth wedi clywed yr hanes o'r blaen tan y flwyddyn yma, sy'n rhyfedd achos byddech chi'n meddwl bydde rhywbeth mor hanesyddol â hyn yn rhywbeth bydde ni'n gwybod amdano," meddai.

"Felly roedd yn syrpreis clywed bod y gêm gyntaf i gael ei chynnal yng Nghymru wedi cael ei chynnal yn y pentref bach fi'n byw ynddo yn Sir Gâr - mae'n crazy!

"Ond mae'n hanes rili neis i'r pentref ei gael ac mae'n dda nawr bod ni yn gwybod am yr hanes sy'n mynd nôl i 1866. Mae'n rhywbeth rial sbeshial."

I deulu Carys, mae'n gysylltiad annisgwyl arall iddyn nhw gyda'r gamp gan fod ei thad-cu, Peris James, yn chwaraewr rygbi lleol adnabyddus.

"Roedd fy nhad-cu i yn chwarewr rygbi brwd so o'n ni gyda chysylltiadau fel teulu yn gryf gyda rygbi," meddai Carys.

Ffynhonnell y llun, SWANSEA RFC MEMORABILIA CIC
Disgrifiad o’r llun,

Peris James, trydydd o'r dde yn y rhes gyntaf sy'n eistedd, yn nhîm Abertawe 1951-52

Roedd Peris James yn bostfeistr ym mhentref Caio ac fe chwaraeodd 46 gwaith i Abertawe gan gynnwys yn erbyn y Springboks yn 1951. Roedd ar un adeg yn sgoriwr uchaf i dîm Llanbed a hefyd wedi chwarae i Lanelli, Castell-nedd, Aberafon, Pen-y-bont ar Ogwr, Aberteifi a Chaerfyrddin.

Ond doedd yntau ddim yn gwybod am le hanesyddol y pentref yn hanes y gêm chwaith.

Credir mai'r Parchedig Athro Rowland Williams ddaeth å'r gêm o Gaergrawnt i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, gyntaf, yn 1850; dros 20 mlynedd ar ôl iddi ddechrau gael ei chwarae yn Lloegr.

Ffynhonnell y llun, Haf James
Disgrifiad o’r llun,

Cofnod yn llyfr The Fighting Parsons sy'n sôn am bentref Caio - cyhoeddwyd y llyfr ar 150 mlwyddiant cyflwyno rygbi i Gymru

Wedi'r sesiwn hyfforddi ar yr union gae ger hen ysgol y pentref lle chwaraewyd y gêm gyntaf honno bydd dathliad yn nhafarn y Brunant Arms yn y pentref.

Bydd cyflwyniadau a hen ffilmiau o Caio yn cael eu dangos hefyd ac i ychwanegu at naws y 19eg Ganrif bydd y timau o gyn-fyfyrwyr wedi gwisgo yn nillad y cyfnod, gan gynnwys long johns, hen grys y coleg a chap fflat meddai Ieuan Davies.

Felly fel un o gyn-fyfyrwyr Coleg Dewi Sant, Llanbed, fydd Ieuan Davies yn cymryd rhan?

"Fe ddweda i fel hyn: fydda i'n 60 mis Hydref nesa' ond dyw hynny ddim yn dweud mod i ddim yn mynd i redeg ar y cae!"

Mae'r dathlu yn parhau ddydd Sadwrn gyda gêm arbennig am 12:00 rhwng timau Old Codgers ac Old Boys Coleg Llanbed ac yna y gêm fawr rhwng cyn-fyfyrwyr Llanbed a chyn-fyfyrwyr Llanymddyfri am 14:30.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig