Y Bencampwriaeth: Hull City 1-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Callum RobinsonFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cic Callum Robinson o'r smotyn yn yr hanner cyntaf ei harbed gan golwr Hull

Roedd methiant Callum Robinson i sgorio o'r smotyn yn yr hanner cyntaf yn gostus yn y pen draw wedi i Gaerdydd golli o gôl i ddim oddi cartref yn erbyn Hull City yn y Bencampwriaeth.

Cafodd ymdrech yr ymosodwr o Weriniaeth Iwerddon ei arbed gan golwr Hull, Matt Ingram wrth i'r Adar Gleision golli am yr eildro mewn pedwar diwrnod ers i'r clwb benodi Sabri Lamouchi yn hyfforddwr.

Cafodd Jaden Philogene ei lorio gan Callum Elder ac wrth i Robinson anelu ei gic o'r smotyn fe ddyfalodd Ingram yn gywir i ba gyfeiriad roedd yn mynd ac fe lwyddodd i wthio'r bêl i ffwrdd.

Dyma'r drydedd gic o'r smotyn i Gaerdydd ei hennill yn y Bencampwriaeth ers dechrau'r tymor, ond yn anffodus maen nhw nawr wedi methu pob un ohonyn nhw.

Fe sgoriodd y tîm cartref wedi dros awr o chwarae pan rwydodd Cyrus Christie gydag ergydiad droed chwith yn y cwrt chwech.

Mae Caerdydd yn aros yn yr 21ain safle, ddau bwynt yn unig uwchben tri safle gwaelod y tabl.