Y Bencampwriaeth: Abertawe 3-4 Birmingham City

  • Cyhoeddwyd
Joel Piroe yn dathlu sgorio ei ail gôlFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Joel Piroe yn dathlu sgorio ei ail gôl yn erbyn Birmingham

Roedd yna ddiweddglo dramatig i gêm gyffrous yn Stadiwm Swansea.com wedi i Birmingham City sgorio gôl hwyr i drechu Abertawe yn y Bencampwriaeth.

Y tîm cartref oedd ar y blaen ym munud olaf y 90 cyn i'r ymwelwyr ddod yn gyfartal ac yna sgorio eto yn y munudau ychwanegol.

Prin oedd yr ymwelwyr wedi cyffwrdd yn y bêl cyn i'r Elyrch ildio cic o'r smotyn, wedi i Andrew Fisher gicio Reda Khadra yn ei goes.

Fe rwydodd eu prif sgoriwr, Scott Hogan (14) yn rhwydd ond fe barodd y fantais am lai na 10 munud. Joel Pirou (23) ddaeth ag Abertawe'n gyfartal gydag ergydiad droed dde heibio'r golwr John Ruddy.

Chwe munud wedi hynny Abertawe oedd ar y blaen, pan rwydodd Liam Cullen o agos, ac roedd Pirou'n credu iddo sgorio'i ail gôl o'r prynhawn cyn i limanwr nod ei fod yn camsefyll.

Daeth Tahith Chong â Birmingham yn gyfartal wedi 55 o funudau wedi i bas Juninho Bacuna fynd trwy ganol amddiffyn Abertawe.

Ond roedd yr Elyrch ar y blaen unwaith yn rhagor pan wnaeth golwr yr ymwelwyr gamgymeriad a rhoi'r bêl yn syth i lwybr Pirou (58) a sgoriodd yn hawdd.

Roedd y triphwynt yn ymddangos yn ddiogel nes i Birmingham ddechrau cynyddu'r pwysau. Fe dalodd y pwysau yna pan beniodd yr eilydd Lukas Jutkiewicz (90) y bêl i'r rhwyd.

Gyda saith munud ychwanegol ar y clod, roedd yna densiwn, ac yna tor-calon i chwaraewyr a chefnogwyr Abertawe pan neidiodd yr amddiffynnwr canol cae Auston Trusty (90+6) uwchben pawb arall i benio'r bêl i'r rhwyd.

Mae Abertawe wedi llithro un safle yn y tabl, i'r 13eg, o ganlyniad.