Y Gynghrair Genedlaethol: Altrincham 1-2 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Y Gynghrair GenedlaetholFfynhonnell y llun, Getty Images

Gôl hwyr gan yr amddiffynnwr Eoghan O'Connell yn ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb wnaeth sicrhau buddugoliaeth oddi cartref i Wrecsam yn erbyn Altrincham yn y Gynghrair Genedlaethol.

Di-sgôr oedd hanner cyntaf y gêm yn erbyn y clwb â'u trechodd fis diwethaf ar giciau o'r smotyn yn nhrydedd rownd Tlws FA Lloegr.

Fe roddodd Ollie Palmer Wrecsam ar y blaen wedi awr o chwarae, ond fe ddaeth Miles Welch-Hayes â'r tîm cartref yn gyfartal gyda llai na 10 munud ar y cloc.

O'Connell oedd yr arwr felly pan sgoriodd wedi 86 o funudau, ddyddiau wedi iddo ymuno â Wrecsam o Charlton Athletic, a hynny wedi i beniad Sam Dalby daro'r trawst.

Golyga'r canlyniad bod Wrecsam nawr wedi ennill saith gêm o'r bron yn y gynghrair.

Maen nhw'n aros yn ail safle'r tabl gyda 68 o bwyntiau - dri yn llai na Notts County ar y brig ond gyda dwy gêm mewn llaw.