Trafferthion teithio wedi tân ar drên ger Wrecsam
- Cyhoeddwyd

Roedd y trên yn teithio o Gaergybi i Gaerdydd, yn ôl Trafnidiaeth Cymru
Bu'r gwasanaethau brys yn delio â thân ar drên ger ffordd yr A483 yn Wrecsam fore Mawrth.
Roedd pump o griwiau tân ar y safle yn dilyn galwad am tua 06:45.
Roedd y trên ar dân rhwng cyffyrdd 5 a 6, a bu'r A483 ar gau cyn ailagor yn ddiweddarach, yn ôl yr heddlu.
Roedd y trên yn teithio o Gaergybi i Gaerdydd, yn ôl Trafnidiaeth Cymru. Mae'r teithwyr a'r staff oedd arni yn ddiogel.
Dywedodd y cwmni amser cinio ddydd Mercher fod y trên wedi cael ei symud, ond fod disgwyl oedi ar wasanaethau rhwng Wrecsam a Chaer tan ganol y prynhawn.
Fe rybuddiodd Trafnidiaeth Cymru ar eu gwefannau cymdeithasol y gallai gwasanaethau gael eu canslo, oedi neu eu newid.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd llefarydd ar ran Trafnidiaeth Cymru fod "holl deithwyr a chriw yn ddiogel ac mae'r gwasanaethau tân yno".
"Mae nifer o wasanaethau rhwng Amwythig a Chaer wedi eu heffeithio o ganlyniad, gyda gwasanaethau bws ar gael yn lle," meddai.
"Ry'n ni'n ymddiheuro am yr amharu ar deithiau pobl."
Fe wnaethon nhw annog cwsmeriaid i wirio eu taith cyn dechrau ar eu siwrne.