Merch 7 oed yn cystadlu am wobr enillodd ei hen daid 41 mlynedd yn ôl

Dau lun ochr yn ochr, Elspeth ar y chwith a'i hen daid ar y ddeFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Elspeth ar y chwith a'i hen daid William Hugh Griffith ar y dde

  • Cyhoeddwyd

Bydd merch 7 oed o Lanrug yng Ngwynedd yn cystadlu mewn sioe geffylau fawreddog, 41 o flynyddoedd ar ôl i'w hen daid ennill yno.

Mae Elspeth yn gobeithio cael yr un llwyddiant eleni a chafodd William Hugh Griffith, yn yr Horse of The Year Show (HOYS) yn 1984.

Enillodd hen daid Elspeth y Brif Bencampwriaeth Ceffylau Gwedd, a bydd Elspeth yn cystadlu eleni drwy farchogaeth Meering Audrey May yn Birmingham.

Dywedodd mam Elspeth, Heledd Jones-Tandy: "Mi oedd Taid yn dweud ma' hwnna oedd y profiad gora' yn ei fywyd o heblaw am briodi Nain."

Llun o ElspethFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elspeth wastad wedi bod wrth ei bodd â cheffylau

Dywedodd Elspeth ei bod "wrth fy modd 'efo ceffyla'", ac esboniodd ei bod hi'n "rili licio nhw achos ti'n gallu g'neud rwbath ti isho 'efo nhw".

"Dwi'n' licio reidio nhw, gallu brwsio nhw, ac edrych ar ôl nhw."

Mae gan Elspeth chwe cheffyl ar hyn o bryd ac aeth ati i'w henwi: Todd, Sianco, Teddy, Henry, George ac Audrey.

Llun o Elspeth ar gefn ceffyl a'i mam yn tywys y ceffylFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae mam Elspeth, Heledd Jones-Tandy, yn dweud y bydd yn "arbennig ei gweld hi yna"

Mae gofalu am geffylau yn y gwaed, ac mae'r teulu cyfan yn ymfalchïo yn llwyddiant Elspeth, meddai ei mam.

"'Da ni wrth ein bodda' ei bod hi'n cael mynd i HOYS.

"Ers pan mae'n ddim o beth, munud 'naeth hi ddechra' dangos mewn sioeau lleol oedd hi isho mynd i sioe fwy, ac y sioe iddi hi oedd HOYS."

Ddechrau'r flwyddyn fe gafodd Elspeth lwyddiant gyda'i cheffyl Henry, gan sicrhau lle yn yr Agria Royal International Horse Show.

"Munud 'naeth hi ddod allan o'r ring dyma hi'n d'eud 'da ni'n cael trio am HOYS wan?'.

"'Da ni'n ffodus iawn fod y cyfle wedi dod iddi gael mynd, ac mi fydd yn arbennig cael ei gweld hi yna."

Llun o Elspeth ac Isaac ar gefn ceffylFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae efaill Elspeth, Isaac, wrth ei fodd yn mynd i'r sioeau hefyd i gefnogi ei chwaer a helpu i baratoi'r ceffylau, meddai eu mam

Aeth Heledd ymlaen i ddweud ei bod hi'n "meddwl mai'r Horse of the Year Show, ydy'r sioe fwya' yn y byd".

"Dyma ydi'r sioe mae pawb isho anelu at.

"Mi oedd Taid yn dweud ma' hwnna oedd y profiad gora' yn ei fywyd o heblaw am briodi Nain.

"Mae'n lwcus iawn cael mynd yno yn saith oed, a gobeithio gall hi gofio fo ac adeiladu arno fo".

Llun o William Hugh Griffith gyda cheffyl mawrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heledd bod ei thaid yn dweud, heblaw am briodi ei wraig, mai ennill yn yr HOYS "oedd ei hoff ddiwrnod o"

Mae nain Elspeth, a mam Heledd Jones-Tandy, Bethan Jones, yn dweud ei bod "mor falch ohoni".

"Oedd o [hen daid Elspeth] yn byw i'r ceffyl gwedd.

"Dyna oedd ei bassion o, ac ar ôl priodi Mam dyna fo, dim ond mynd 'efo'r ceffyla' o'dd ei betha' fo.

"Dwi mor falch bod hi wedi cal llwyddiant i fynd a bydd o'n amser neis i ni fel teulu."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig