Streiciau: Staff GIG ac addysg Cymru yn cael cynigion cyflog newydd

  • Cyhoeddwyd
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Eluned Morgan: "Y gwir amdani yw, os caiff y cynnig hwn ei wrthod, ni fydd modd inni wneud unrhyw gynnig cyflog uwch ar gyfer 22/23"

Mae gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru wedi cael cynigion cyflog newydd gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cynigion gwell nawr yn cael eu rhoi i aelodau undeb.

Cadarnhaodd Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) Cymru ei fod wedi cael cynnig cyflog diwygiedig.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, fod trafodaethau gydag undebau sy'n cynrychioli nyrsys, bydwragedd, ffisiotherapyddion a staff ambiwlans bellach wedi dod i ben.

Ond mae staff ambiwlans sy'n cael eu cynrychioli gan Unite yn dweud nad yw'r cynnig yn ddigon iddyn nhw ohirio eu gweithredu diwydiannol, gyda thri diwrnod wedi'u cynllunio ar ddiwedd y mis.

Dywedodd Nathan Holman o'r GMB y byddan nhw'n rhoi tan 17 Chwefror i'w haelodau benderfynu a ydyn nhw am dderbyn neu wrthod y cynnig, cyn gweithredu diwydiannol arfaethedig ar 20 Chwefror.

Dywedodd y bydd aelodau'n cynnal pleidlais ar-lein ddydd Iau.

Gall undebau eraill gymryd mwy o amser i ymgynghori ag aelodau gan nad oes ganddyn nhw'r un dyddiad cau, sef diwrnod streic sydd ar ddod.

'Uchafswm y gallwn fforddio'

Dywedodd Eluned Morgan bod y cynnig cyflog terfynol hwn yn cynnwys 3% yn ychwanegol - 1.5% ohono'n gyfunedig a 1.5% heb fod yn gyfunedig, felly bydd mewn pecynnau cyflog o flwyddyn i flwyddyn.

Meddai, "y cynnig hwn yw'r uchafswm y gallwn fforddio ei wneud ar gyfer cynnig cyflog 22/23 ac rydym wedi bod yn agored ac yn dryloyw am ein cyfyngiadau ariannol gyda'n partneriaid cymdeithasol.

"Oherwydd cyfyngiadau'r fframwaith cyllidol y mae Llywodraeth Cymru'n gweithredu ynddo, dim ond tan ddiwedd mis Mawrth y mae'r cyllid ar gyfer y costau yn y flwyddyn ariannol hon ar gael.

"Y gwir amdani yw, os caiff y cynnig hwn ei wrthod, ni fydd modd inni wneud unrhyw gynnig cyflog uwch ar gyfer 22/23."

Athrawon a phenaethiaid

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cadarnhau bod cynnig cyflog gwell wedi'i wneud i undebau llafur athrawon a phenaethiaid.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Dywedodd llefarydd, "ar ben y codiad cyflog o 5%, mae'r cynnig cyflog diwygiedig yn cynnwys 3% arall, gydag 1.5% ohono yn gyfunedig. Mae'r pecyn diwygiedig hwn hefyd yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sylweddol nad ydynt yn ymwneud â chyflog ond sy'n gysylltiedig â llwyth gwaith yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir."

Dywedodd David Evans ar ran undeb NEU Cymru bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno "cynnig diwygiedig o ran cyflog" - a'u bod wedi cael trafodaethau ar lwyth gwaith.

Meddai, "fel corff democrataidd, y peth nesaf fydd i'n haelodau gweithredol benderfynu a yw'r cynnig yn ddigon i'w roi i'r aelodaeth yn ehangach. Byddwn yn cynnal cyfarfod o'n pwyllgor gwaith heno i drafod y cynnig hwn.

"Yn y cyfamser, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i drafod cynnig cyflog y flwyddyn nesaf gyda'r gweinidog nawr ei fod wedi cytuno i ailagor y broses".