Dewisiadau 'anoddach' ar ôl codi cyflogau staff GIG
- Cyhoeddwyd
Fe fydd dewisiadau Llywodraeth Cymru'n "anoddach" yn y dyfodol o ganlyniad canfod cyllid ychwanegol er mwyn cynnig mwy o arian i staff y GIG yng Nghymru, medd Gweinidog Cyllid Cymru.
Bydd yr arian, medd Rebecca Evans, yn dod o arian wrth gefn y llywodraeth ac arbedion yng ngwariant gwahanol adrannau.
Mae gweinidogion Cymru wedi cynnig cynnydd ychwanegol o 1.5% yng nghyflogau staff y GIG er iddyn nhw ddatgan sawl tro bod dim arian ychwanegol ar gael i wella'r cynnig.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi gofyn pam na weithredodd y llywodraeth yn gynt er mwyn osgoi streiciau sydd wedi digwydd hyd yn hyn.
Yn y cyfamser, mae arweinydd undeb Unite wedi dweud ei bod yn cwrdd â Gweinidog Iechyd Cymru ar drothwy streic dydd Llun.
Mewn cyfweliad ar raglen BBC Politics Wales, dywedodd Ms Evans bod Llywodraeth Cymru'n defnyddio £125m o'i chronfeydd wrth gefn - yr uchafswm sy'n cael ei ganiatáu - a byddai GIG Cymru'n gorfod arbed £64m bob blwyddyn i ariannu'r codiad cyflog uwch.
"Fy ngobaith fyddai wedi bod y byddwn ni wedi gallu defnyddio'r [arian wrth gefn] yn y flwyddyn ariannol nesaf a'r flwyddyn wedi hynny oherwydd ry'n ni'n gwybod nawr bod rheiny'n mynd i fod yn fwy anodd nag eleni," dywedodd.
"Ond wedi dweud hynny, roedden ni eisiau dod i ddatrysiad da gyda'r undebau ar gyfer gweithwyr y GIG yng Nghymru.
"Nid ar chwarae bach y'n ni'n cymryd yr holl gyllid o gronfa wrth gefn Cymru mewn un blwyddyn - mae hynny'n gam i'w gymryd o ddifrif."
Pan ofynnwyd a yw'n difaru peidio gweithredu'n gynt mewn cysylltiad â chyflogau gweithwyr iechyd, atebodd: "Fyddai wedi bod yn dda petawn ni wedi gallu osgoi gweithredu diwydiannol yma yng Nghymru."
Dydy mwyafrif aelodau'r undebau o fewn y GIG heb ymateb eto i'r cynnig diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ond mae Ms Evans yn pwysleisio na allai'r weinyddiaeth "fynd dim pellach".
Dywed y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn "falch" bod y rhan fwyaf o'r streiciau iechyd wedi cael eu gohirio "oherwydd mae'n amhosib mesur yr amhariad i staff a chleifion mewn gwasanaeth iechyd ble mae bron i un o bob pedwar o'r poblogaeth ar restr aros."
Gofynnodd arweinydd y blaid yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies pam na wnaeth Llywodraeth Cymru "ddatrys hyn yn gynt... ac y byddai'r amhariad wedi caei ei leihau".
Pan ofynnwyd a yw cynnig newydd Llywodraeth Cymru'n ddigon uchel, atebodd Mr Davies: "Byddwn i'n gobeithio na fyddan ni'n gweld mwy o weithredu diwydiannol yn y gwasanaeth iechyd."
Mae Plaid Cymru hefyd yn croesawu'r cynnig diweddaraf ond yn dweud ei bod "yn dal yn sylweddol is na graddfa chwyddiant".
Dywedodd arweinydd y blaid, Adam Price: "Mae'n is na'r hyn sydd wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth Yr Alban i weithwyr GIG yn fanno.
"Ond dyw e ddim wir yn mynd i'r afael â chraidd yr anghydfod, sef y ffaith bod staff y GIG wedi cael toriad cyflog mewn termau real am dros ddegawd a mwy.
"Dydw i ddim yn meddwl bod 1.5% yn unig yn uwch na'r hyn roedd y llywodraeth eisoes yn ei gynnig wir yn mynd i'r craidd yna."
O'r holl streiciau oedd i fod i ddigwydd ddydd Llun yn cynnwys gweithwyr iechyd, yr unig staff sy'n dal yn bwriadu bwrw ymlaen â'r streic er gwaethaf cynnig newydd Llywodraeth Cymru yw gweithwyr ambiwlans sy'n perthyn i'r undeb Unite.
Ddydd Gwener, fe ddywedodd yr undeb, Unite, sy'n cynrychioli tua chwarter holl staff ambiwlans Cymru, eu bod am barhau i weithredu'n ddiwydiannol oni bai bod yna gytundeb gwell dros y penwythnos.
Fore Sul fe ddywedodd arweinydd yr undeb, Sharon Graham ei bod yn cwrdd â'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan yn ystod y dydd yn y gobaith "o gael y cytundeb ry'n ni angen ei roi i'n haelodau i ddatrys yr anghydfod" dros dâl ac amodau.
Mae Ms Morgan wedi cynnig 3% o godiad cyflog ar ben swm o £1,400 sydd eisoes wedi ei addo.
Dywedodd Ms Graham: "Yr hyn a wyddwn - oherwydd daeth ein holl gynrychiolwyr at ei gilydd pan gafodd y cynnig hwnnw ei roi ar y bwrdd - yw na wnaiff ein haelodau dderbyn hwnnw."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn falch o'r ymateb cychwynnol" i'w cynnig i'r undebau iechyd, a'u bod yn parhau i drafod "nifer o ymrwymiadau nad sy'n ymwneud â thâl i wella lles staff".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2023