Diffyg cyfleusterau mislif yn y byd chwaraeon yn 'rhwystr i ferched'

  • Cyhoeddwyd
Elinor Snowsill
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Elinor Snowsill ei bod wedi cael ei dal allan sawl gwaith gan ddiffyg cyfleusterau ar gyfer y mislif

Mae yna rybuddion y gallai merched gefnu ar chwaraeon yn sgil diffyg cyfleusterau ar gyfer y mislif.

Yn ôl un o garfan rygbi rhyngwladol Cymru, mae prinder tai bach, papur tŷ bach a biniau mewn clybiau yn broblem gyfarwydd.

"Pethau bach fel 'na, dyw dynion just ddim yn meddwl am," meddai Elinor Snowsill wrth raglen Newyddion S4C.

Diffyg cyllideb yn ogystal â diffyg parch at gampau'r merched sy'n gyfrifol, yn ôl arbenigwr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi ymrwymo i roi £24m i ddatblygu cyfleusterau chwaraeon erbyn 2025.

'Newid tampon wrth ochr y cae'

Dywedodd Elinor Snowsill, sydd â 71 o gapiau dros Gymru, ei bod wedi cael ei dal allan sawl gwaith gan ddiffyg cyfleusterau.

"Unwaith o'dd rhaid i fi roi tampon mewn wrth ochr y cae ymarfer mewn rhyw focs ble o'n nhw'n cadw'r cit - y pads a'r peli a phethau," meddai.

"O'n i'n poeni wedyn a fyddai un o'r dynion staff yn cerdded mewn tra bo' fi'n 'neud e. Dyw hwnna just ddim yn ddigon da."

Dywedodd y maswr o Gaerdydd bod y sefyllfa wedi gwella ar y lefel rhyngwladol.

Mae Undeb Rygbi Cymru, meddai, yn cynnig hyfforddiant pelfig a nwyddau mislif am ddim i'w chwaraewyr, yn ogystal ag addysg am y mislif.

Ond mae dal ffordd i fynd mewn caeau chwarae'n gyffredinol, ychwanegodd.

"Mae 'na dal amseroedd os y'n ni'n teithio i ffwrdd, ble does 'na ddim cyfleusterau yn y tŷ bach."

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Mae dal ffordd i fynd i wella'r sefyllfa ar lawr gwlad, meddai Elinor Snowsill

Gallai symptomau'r mislif ei gwneud hi'n anodd i ferched gymryd rhan mewn chwaraeon, medd Ms Snowsill.

"Dydyn ni ddim angen hyd yn oed mwy o rwystrau, gyda'r ffaith bod 'na ddim cyfleusterau.

"Unwaith pob mis ma' hwn yn digwydd... nid unwaith pob hyn a hyn, ond 12 gwaith y flwyddyn."

Dywedodd URC eu bod yn awyddus i ddileu unrhyw rwystrau sy'n atal merched rhag cymryd rhan yn y gamp, a'u bod am holi pob clwb yng Nghymru am y cyfleusterau sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol.

'Cyfleusterau wedi eu creu i ddynion'

Yr un yw'r broblem ar lawr gwlad, meddai chwaraewyr Clwb Pêl-droed y Felinheli yng Ngwynedd.

Yn ôl Nel Huws, mae diffyg cyfleusterau i ferched wedi ei "normaleiddio" am ei fod mor gyffredin.

"'Di o ddim hyd yn oed yn croesi meddwl fi weithiau bod 'na ddim cyfleusterau, achos ti 'di arfer gymaint bod 'na ddim," meddai.

Mae'n rhaid gwella'r sefyllfa, medd Ms Huws, "achos mae'n really effeithio'r ffordd 'da chi'n gallu 'neud chwaraeon".

Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n meddwl bod y rhan fwyaf o'r cyfleusterau wedi cael eu creu i ddynion," meddai Llio Emyr

Ychwanegodd un sy'n hyfforddi ac yn chwarae i'r clwb eu bod wedi cyrraedd sawl gêm a chanfod nad oedd unrhyw adnoddau yn y tai bach.

"Dim hyd yn oed papur toiled, dim biniau o gwbl ar gyfer cynnyrch," medd Llio Emyr.

"Dwi'n meddwl bod y rhan fwyaf o'r cyfleusterau wedi cael eu creu i ddynion o'r dechrau, yn amlwg.

"Mae angen dilyn y ffordd o ran, os 'da chi'n mynd i ganolfannau hamdden ac ati, mae 'na ddigon o gyfleusterau yn fanna."

'Goblygiadau enfawr'

Fe allai'r sefyllfa gael sgil effaith ddifrifol ar iechyd cyhoeddus, medd un sy'n ymchwilio i'r mislif o fewn chwaraeon.

"Y gwir yw mae'n atal merched a menywod rhag gymryd rhan yn eu camp," meddai Dr Natalie Brown, "am eu bod nhw'n poeni am waedu trwy eu dillad, neu beidio gallu rheoli eu mislif."

"Os ydyn ni'n drych ar iechyd a lles yn y tymor hir, mae'r goblygiadau'n enfawr."

Yn rhannol gyfrifol yw diffyg cyllideb, medd yr arbenigwr, yn enwedig i glybiau ar lawr gwlad sy'n dibynnu'n fwy ar greu arian i'w hunain.

Ond weithiau, blaenoriaethu campau'r dynion dros rhai'r merched sy'n gyfrifol, meddai Dr Brown.

Ffynhonnell y llun, Cassandra Lane
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Natalie Brown y gallai'r sefyllfa effeithio'n ddifrifol ar iechyd cyhoeddus

"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar eu cynllun urddas mislif," meddai Dr Brown. "Sut allwn ni ddarparu cyllideb a darparu cyfleusterau i glybiau?"

Yn 2022, fe ddywedodd 8% o ferched ysgol yng Nghymru gafodd eu holi gan Chwaraeon Cymru y bydden nhw'n gwneud mwy o ymarfer corff pe bydden nhw'n gallu rheoli eu mislif yn well.

Yn ôl Owen Hathway o'r sefydliad, mae sicrhau cyfleusterau o safon yn hollbwysig.

"Nid just ar gyfer datrys y broblem o ferched yn gallu cymryd rhan o gwmpas y mislif, ond merched yn cymryd rhan yn gyffredinol a theimlo eu bod nhw'n rhan o'r sector chwaraeon yng Nghymru."

Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn benderfynol o sicrhau nad ydy merched yn rhoi'r gorau i chwaraeon o ganlyniad i'w mislif.

"Ers 2018 rydyn ni wedi buddsoddi tua £12m i sicrhau fod gan blant a phobl ifanc a'r rheiny ar incwm isel fynediad at nwyddau mislif yn rhad ac am ddim, yn ogystal â £24m dros y dair blynedd nesaf ar gyfer Chwaraeon Cymru i ddatblygu cyfleusterau.

"Rydyn ni'n falch o'r hyn mae'r arian yma wedi ei gyflawni, ac o'n gwaith gydag awdurdodau lleol a byrddau iechyd i gyflenwi ysgolion, colegau a chymunedau a nwyddau ar gyfer y mislif."