Breuddwyd Cai o Awstralia i chwarae pêl-droed dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Ddeufis yn ôl roedd Cai Glyn Bongiovanni-Hughes yn eistedd i lawr yn oriau mân y bore yn barod i wylio Cymru yn wynebu America yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd, Qatar.
Prin oedd y bachgen 15 oed sydd wedi'i i fagu yn Perth, Awstralia yn dychmygu bryd hynny y byddai'n teithio i Gymru yn y flwyddyn newydd i wireddu breuddwyd oes o efallai gael chwarae gyda bathodyn y ddraig goch ar ei frest.
Symudodd Hywel, tad Cai, o ogledd Cymru i Awstralia yn 1998, a phriodi ei wraig, Maria, sydd â'i gwreiddiau yn Sicily yn yr Eidal.
Ers yn blentyn yn tyfu i fyny'n Perth, mae Cai wedi datblygu'n dipyn o bêl-droediwr, ond hefyd wedi'i drochi yn niwylliant Cymru, diolch i ddylanwad ei dad.
Ei ddewis i West Ham
Yn ddiweddar, drwy rwydweithiau sgowtio rhai o glybiau Uwch Gynghrair Lloegr yn Awstralia, cafodd Cai wahoddiad i ddod am dreial gyda chlwb West Ham.
"Roedd Cai wedi cael treial yn Perth efo clwb West Ham. 'Nath o'n dda iawn yn fanno a chael gwahoddiad i'r national camp yn y Gold Coast," meddai ei dad.
"Ar ddiwedd y treialon ar y Gold Coast roedd sgowtiaid West Ham yn dewis rhai i gael dod drosodd i Lundain i chwarae yn academi West Ham am bythefnos. Roedd Cai yn lwcus iawn ac fe gafodd o'i ddewis."
Ar ôl glanio yn Llundain cafodd Cai chwarae yn academi West Ham am bum diwrnod, cyn teithio i fyny i Bolton ac wedyn Glasgow.
Wrth chwarae yn Bolton, cafodd Cai gyfle i gwrdd â Chymro arall gafodd ei eni'n Perth ond sydd bellach wedi chwarae i dimoedd ieuenctid Cymru ac sy'n siarad Cymraeg, Gethin Jones.
Mae Jones bellach yn chwarae fel amddiffynnwr i Bolton, a digwydd bod yn ffrindiau mawr ag aelodau o deulu Cai sy'n byw yn ardal Porthmadog, bro magwraeth Gethin Jones.
"Cafodd Geth argraff fawr ar Cai," meddai Hywel. "'Nath o sortio tocynnau i ni allu mynd i wylio Bolton yn chwarae ac fe gafodd o gêm ffantastig hefyd yn yr amddiffyn. Bolton heb os rŵan ydi ail dim Cai."
Pan oedd yn Bolton, roedd Hywel yn ymwybodol fod enw Cai wedi'i gynnwys ar restr sgowtiaid Cymru fel un i gadw llygaid arno dros y blynyddoedd nesaf, os oedd ei allu pêl-droed yn parhau.
Mae'r ffaith bod tad Cai, Hywel yn Gymro yn golygu bod Cai yn gymwys i chwarae i Gymru. Ond hefyd, byddai'n gallu chwarae i'r Eidal neu Awstralia.
Dymuniad Cai, fodd bynnag, yw chwarae dros Gymru.
"Dwi'n angerddol iawn am Gymru, roeddwn wrth fy modd yn ei gwylio nhw yng Nghwpan y Byd," meddai. "Dwi'n teimlo os gallai lwyddo i chwarae i Gymru y gallaf gyflawni pethau da iawn gyda'r tîm, mae'n freuddwyd i mi."
Nawr fod ei dreialon gyda West Ham wedi dod i ben, mae'n aros i glywed beth fydd yn digwydd nesaf.
Ond, yn y cyfamser mae am dreulio ychydig o amser yn ymweld â'i deulu yng Nghymru gan aros yng nghartref ei Daid, Idris, yn Llanelwy.
'Cymru am Byth'
Mae hefyd wedi cael gwahoddiad i ymarfer gyda thîm ieuenctid Wrecsam tra'i fod yng Nghymru, er mwyn cadw ei hun yn ffit.
"Mae pre-season Cai yn dechrau nôl yn Awstralia ym mis Ebrill. Mae newydd arwyddo gyda'r CPI, sef y safon uchaf o bêl droed am ei oed yn Awstralia.
"Bydd yn chwarae yn fanno am y tymor nesaf a gwan ni weld beth nesaf," eglura Hywel.
Wrth edrych nôl dros ei gyfnod yng Nghymru, dywedodd Cai ei fod wedi dysgu llawer am fath gwahanol iawn o chwarae pêl droed o'i gymharu â'r hyn mae wedi arfer ag o yn Awstralia.
"Mae'r gêm yn llawer cyflymach yma nag yn Awstralia ac mae'r bechgyn yn llawer mwy corfforol hefyd. Dwi wedi dysgu llawer iawn ac wedi mwynhau'r profiad o gael bod yma, gan obeithio un diwrnod y caf ddod 'nôl i chwarae yn y crys coch," meddai.
"Cymru am Byth!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2022