O frwydro canser i nyrsio mewn cymuned frodorol yn Awstralia
- Cyhoeddwyd
"Mae bod allan yma wedi bod yn brofiad da i fi ddod i delerau efo cael canser y fron. Be dwi yn gwneud rŵan ydi dysgu'r merched sydd yn y gymuned, sydd chwe awr o le fedran nhw gael mammograms, sut i examinio eu brestiau."
Newidiodd bywyd Awen Griffiths o Benmorfa ger Porthmadog yn llwyr pan gafodd hi ganser y fron dair blynedd yn ôl.
Er iddi gyrraedd yr ochr arall yn iach mi benderfynodd fod angen newid yn ei bywyd felly symudodd i ben draw'r byd.
"Be dwi'n neud ydi gweithio wyth wsnos yn y gymuned a pedair wsnos adra. Mae adra erbyn hyn yn Adelaide yn ne Awstralia," meddai.
Ers wyth mis bellach mae Awen, sydd wedi bod yn nyrs am dros 30 blynedd, yn gweithio mewn cymuned frodorol anghysbell o'r enw Yarralin, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Walangieri, yn Nhiriogaeth Ogleddol y wlad.
"Y rheswm nes i symud i fod yn ganol nunlla oedd oherwydd ges i ganser y frest tair blynedd yn ôl. O'n i isio gwneud rwbath i helpu, ro'n i isio gwneud rwbath hollol wahanol a helpu."
'Reit bell o bob man'
Mae gan Yarralin boblogaeth o hyd at 300 o bobl sy'n cynnwys 70 o blant. Mae ganddi nifer o grwpiau brodorol gwahanol gyda'u ieithoedd ei hunain gan gynnwys Gurindji, Ngarinyman, Bilinara a Mudburra.
"Da'ni reit bell o bob man, tua chwech awr mewn car o'r dref agosaf, sef Katherine. Efo fy swydd i 'da ni'n hedfan mewn ac allan a mae o'n cymryd tua awr. Ar hyn o bryd mae ganddon ni ddwy nyrs a meddyg sydd yn hedfan i fewn unwaith bob pythefnos.
"Ma 'nydd i yn dechra am wyth, mae'r clinig yn agor am 8:30, a rydan ni yn cau am bedwar. Wedyn rydan ni yn mynd on call wedyn o bedwar tan wyth y bore. Mae ffôn ganddon ni bob yn ail noson ac os ydi rhywun yn sâl yn y nos maen nhw yn gallu ffonio.
"Pan mae rhywun yn wael ofnadwy rydan ni yn gallu ffonio flying doctor. Mae 'na airstrip yma."
Clefyd siwgwr a iechyd meddwl
"Yn anffodus mae yfed yn broblem mawr yn eu diwylliant nhw yma. Maen nhw yn yfed ac yn ysmygu dipyn a dydyn nhw ddim yn edrych ar ôl ei hunain.
"Un o'r problemau eraill sydd yn reit gref yma ydi problemau iechyd meddwl. Yn anffodus, er ein bod ni mor bell o bob man, mae cyffuriau yn broblem ac yn gwneud ei ffordd yma."
O ganlyniad mae alcohol wedi cael ei wahardd yn y gymuned erbyn hyn, fel mae Awen yn esbonio: "Be' sydd wedi digwydd ydi mae'r henoed yn y gymuned wedi dod at ei gilydd, achos fod 'na gymaint o broblemau yfed, maen nhw wedi gwneud y gymuned yn hollol sych. Dydyn nhw ddim yn cael dod ag alcohol i mewn a mae o wedi helpu lot o broblemau."
Un elfen sy'n rhaid i'r nyrsus ei barchu ydi eu traddodiad o ddefnyddio meddyginiaeth naturiol, rhywbeth sydd yn dal yn bwysig yn eu diwylliant heddiw: "Maen nhw yn defnyddio bush medicine a fel pobl gwyn rydan ni yn gorfod bod yn barchus o hynny. Os ydi rhywun yn sâl mi awn nhw lawr at yr afon ac i chwilio am wahanol blanhigion.
"Os 'di o'n gweithio, felly gret, ond os dydi o ddim rydan ni yn cynnig i ddefnyddio bush medicine a ffisig hefyd a mi wnawn ni weithio efo'r ddau. Maen nhw yn licio ein bod ni yn gwneud hynny."
"Pawb yn gwbo' lle mae pawb"
A hithau'n gymuned mor fach tasg hawdd iawn ydi ffeindio claf i ddod am apwyntiad. "Mae pawb yn gwbo' lle mae pawb felly os dwi'n mynd i chwilio am rhywun ma person arall yn gallu deud lle maen nhw!"
A dydi bod ar amser ddim o bwys yn Yarralin chwaith: "Does ganddo ni ddim system apwyntiad achos rhan fwyaf ohonyn nhw does ganddyn nhw ddim watch. Yn ganol nunlla yn fan hyn dydyn nhw ddim yn gorfod poeni am amser, dydyn nhw ddim yn gorfod bod yn nunlla."
Gydag Awen yn dod o gymuned fach yng Ngwynedd ei hun mae'r teimlad o agosatrwydd yn y pentref yn rhywbeth mae hi'n ei werthfawrogi yn fawr hefyd.
"Dwi wedi setlo mewn reit dda 'ma achos dwi'n dod o gymuned reit fach yng Nghymru. Roeddwn i yn hiraethu am hynna.
"Er fy mod wedi byw mewn dinas fawr ers tair mlynedd, dwi dal yn methu cymuned. Mae 'na gymuned glos yma, mae pawb yn perthyn i'w gilydd, mae pawb yn edrych ar ôl plant ei gilydd.
'Diolchgar'
"Maen nhw wedi derbyn ni ac yn ddiolchgar ofnadwy ein bod ni yma achos os fysan ni ddim yma fysan nhw yn gorfod gyrru chwech awr ar ffordd reit ryff i Katherine. Does gan tri chwarter ohonyn nhw ddim car."
Mae Awen yn ddiolchgar hefyd am eu croeso nhw ac yn falch o allu defnyddio ei phrofiad o gael canser y fron i helpu merched Yarrolin.
"Mae bod allan yma wedi bod yn brofiad da i fi ddod i delerau efo cael canser y fron.
"Be' dwi yn gwneud rŵan ydi dysgu y merched sydd yn y gymuned, sydd chwech awr o lle fedran nhw gael mammograms, sut i examinio eu brestiau - be' i edrych am ac ati.
"Felly efo'r profiad dwi wedi cael efo canser y fron dwi wedyn yn gallu dweud wrth y merched be' i edrych allan am a mae hynny wedi bod yn dda i fi fedru eu dysgu nhw."
'Mae ganddyn nhw gymaint o straeon i ddeud'
"Mae ganddyn nhw gymaint o straeon i ddeud. Tua 5.30 bob nos maen nhw i gyd yn dod allan i'w ardd ffrynt ac yn dechrau tân a mae pawb o bob tŷ yn eistedd o gwmpas eu tân nhw.
"Maen nhw yn eistedd o dan y sêr yn bwyta tyrtls neu cangarw. Maen nhw yn pysgota lot hefyd. Mae'n reit ddiddorol."
Mae dros 250 o ieithoedd frodorol a 800 o dafodieithoedd gwahanol yn Awstralia ac maen nhw i gyda mewn perygl o ddiflannu. Mae Awen yn trio ei gorau i ddysgu'r geiriau hanfodol er mwyn hwyluso ei swydd. Mae'r plant wrth eu boddau yn ei clywed yn siarad Cymraeg hefyd.
"Maen nhw fel Cymry efo acen eu hunain bob hanner awr. Yn fan hyn mae gan bob cymuned eu iaith ei hunain ac yn Awstralia mae 'na gannoedd o dafodieithoedd gwahanol felly dwi'n trio, lle bynnag ydw i, i ddysgu geiriau fel poen, llygad, clust a ceg ac ati. Dwi wedi dysgu dipyn o'u hiaith nhw.
"Mae'r plant wrth eu bodd yn clywed fi yn siarad Cymraeg a mi fyddai yn dysgu nhw i ddeud 'nos da' a 'bore da'.
"Mae 'na dda hogyn yma, un o'r enw Alwyn ac un o'r enw Elwyn ac mae eu henwau nhw yn cael eu sillfau yr union 'r'un fath a 'da ni yng Nghymru. O'n i'n sôn wrtho nhw bod yr enwau yna yn boblogaidd ofnadwy yn lle dwi'n dod o.
"Felly mae'n siŵr fod 'na Gymraeg yn rhywle lawr y cenedlaethau! Fyddai wrth fy modd pan mae Elwyn ac Alwyn yn dod i mewn."