AS Pontypridd Alex Davies-Jones yn ymddiheuro am dorri rheolau lobïo
- Cyhoeddwyd
Mae AS ar fainc flaen Llafur, Alex Davies-Jones, wedi ymddiheuro ar ôl iddi dorri rheolau lobïo mewn ffordd "fechan ac anfwriadol".
Gofynnodd AS Pontypridd gwestiwn yn Nhŷ'r Cyffredin am y Cyngor Prydeinig y diwrnod ar ôl dychwelyd o daith i Japan a ariannwyd gan y mudiad.
Mewn gohebiaeth â'r Comisiynydd Seneddol dros Safonau, Daniel Greenberg, derbyniodd y camgymeriad, gan ddweud "roedd hwn yn doriad anfwriadol, ac yn un yr wyf yn hynod o ymddiheurol amdano".
Argymhellodd Pwyllgor Safonau Tŷ'r Cyffredin na ddylai Ms Davies-Jones, llefarydd yr wrthblaid ar ddiwylliant, wynebu unrhyw gamau pellach.
Dywedodd adroddiad y pwyllgor: "Roedd hwn yn doriad bychan ac anfwriadol o'r Côd. Mae Ms Davies-Jones wedi ymddiheuro i'r Comisiynydd am dorri'r rheolau".
'Gwaith gwych'
Derbyniodd daith i Tokyo gwerth bron i £3,000 yr hydref diwethaf - taith a gafodd ei hariannu gan y Cyngor Prydeinig.
Yn Nhŷ'r Cyffredin ar 8 Tachwedd, y diwrnod ar ôl dychwelyd, fe wnaeth hi ganmol "gwaith gwych" y Cyngor Prydeinig yn "addysgu pobl yn ein Saesneg a defnyddio ein celfyddydau a'n diwylliant er y budd mwyaf".
Gofynnodd i weinidog y Swyddfa Dramor Anne-Marie Trevelyan: "Beth arall all y llywodraeth ei wneud i gefnogi'r Cyngor Prydeinig, nid yn unig yn Japan, ond ledled y byd?"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2019