Dathlu BBC yn 100: Perlau o'r archif Cymreig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Lleoliadau'r BBC
Disgrifiad o’r llun,

Canrif o ddarlledu o Gaerdydd: 19 Stryd y Castell, Parc y Plas, y Ganolfan Ddarlledu yn Llandaf a'r Sgwâr Canolog yng nghalon y brifddinas

Wrth i'r BBC yng Nghymru ddathlu'r canmlwyddiant, yr Archifydd Dr Emma Lile sy'n bwrw golwg drwy'r archif a sut maen nhw wedi olrhain tapestri cyfoethog bywyd yng Nghymru dros amser.

Dyddiau cynnar

Gyda sain a fideo ar gael mor rhwydd erbyn hyn ar flaenau ein bysedd, dychmygwch pa mor hudolus a gwefreiddiol oedd clywed y lleisiau cyntaf hynny yn atseinio drwy gartrefi Cymru yr 1920au.

Ar ôl ei sefydlu yn Llundain yn 1922, mentrodd y Cwmni Darlledu Prydeinig (British Broadcasting Company) gam ymhellach, gyda Chaerdydd ymhlith un o wyth canolfan ddarlledu a ddewiswyd i drosglwyddo amrywiaeth o raglenni radio, gyda'r bwriad o hysbysu, addysgu a diddanu.

Ar 13 Chwefror, 1923, roedd lansio gorsaf 5WA o 19 Stryd y Castell yn torri tir newydd, gan ddefnyddio offer costus, blaengar i ddarlledu'r rhaglenni cyntaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mostyn Thomas - y llais Cymraeg cyntaf a gafodd ei glywed ar radio o Gaerdydd, a hynny yn canu Dafydd y Garreg Wen ar 13 Chwefror 1923

Cafwyd cerddoriaeth fyw ar y tonfeddi gan Gerddorfa Ddi-wifr Caerdydd a datganiad o Dafydd y Garreg Wen gan y bariton Cymreig poblogaidd Mostyn Thomas.

Yn anffodus, serch hynny, dim ond Caerdydd a'r cyffiniau allai dderbyn y cynnwys radio cynnar hwn yn llwyddiannus, gyda'r orsaf wedi'i chynllunio i wasanaethu de Cymru a gorllewin Lloegr yn hytrach na Chymru gyfan.

Radio'r BBC yn blodeuo yng Nghymru

Daeth setiau radio di-wifr yn fwyfwy cyffredin mewn cartrefi yng Nghymru yn ystod yr 1930au.

Darlledwyd rhaglenni yn fyw, gyda chost peiriannau i raddau helaeth yn rhwystro rhaglenni rhag cael eu cynhyrchu a'u cadw, felly prin yw'r darllediadau sydd wedi goroesi o'r cyfnod. Yr un cynharaf o Gymru yw araith Lloyd George yng Ngŵyl Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon ym mis Gorffennaf 1934.

Roedd sefydlu Rhanbarth Gymreig y BBC yn 1935, ynghyd ag agor gorsaf Bangor yr un flwyddyn, yn hwb sylweddol i gynnwys radio o Gymru, yn siroedd y gogledd ac ymhlith cymunedau gwledig yn gyffredinol.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Triawd y Coleg (yma gyda chynhyrchydd y BBC, Sam Jones yn y siwt streipiog) yn ymddangos yn gyson ar raglenni adloniant fel Noson Lawen ar radio'r BBC

Cafodd Bangor flas ar y cyfle i greu llu o raglenni newydd, a oedd yn fwy Cymreig eu naws ac wedi'u gwreiddio'n ddwfn yn yr hen ffordd Gymreig o fyw.

Ymryson y Beirdd, Welsh Rarebit, Noson Lawen... roedd rhywbeth at ddant pawb, gyda sioeau adloniant ysgafn yn arbennig o boblogaidd, fel SOS Galw Gari Tryfan, a ddarlledwyd am y tro cyntaf yn 1948.

Doedd yr arlwy radio yng Nghymru ddim yn plesio pawb serch hynny. Cwynodd un beirniad yn rhifyn 1944 o'r cyfnodolyn Wales am y ffaith bod 'pob drama sy'n cael ei llwyfannu o Gaerdydd - popeth a gyflwynir i'r Cymry sy'n gwrando - yn ymdrin ag un math o berson yn unig, sef glöwr y Rhondda a'i gymdeithion'.

Ar y llaw arall, roedd eraill yn llawn canmoliaeth, fel newyddiadurwr y Western Mail ym mis Mawrth 1952, a oedd yn canmol areithiau disgyblion Ysgol Uwchradd Caerdydd ar Children's Hour ac wedi mwynhau sut wnaethon nhw 'godi eu lleisiau a llefaru'n groyw i'r meicroffon, fel pe baen nhw'n ddarlledwyr. Radio o'r radd flaenaf ac mae Cymru'n wlad falch'.

Disgrifiad,

Norah Isaac yn trafod pwysigrwydd cael Cymraeg dealladwy ar y radio

Teledu yn cyrraedd Cymru

Roedd cyfnod cyffrous ar y gorwel, ac ym mis Ebrill 1952, pan ddechreuodd darllediadau o drosglwyddydd Gwenfô ym Mro Morgannwg y mis Awst hwnnw, mawr fu'r disgwyl ymhlith y rhai allai gael derbyniad teledu a fforddio set.

Wrth i luniau byw gyrraedd cartrefi Cymru, trawsnewidiwyd adloniant yn y cartref, gyda gwylwyr yn cael eu cyfareddu gan yr hyn a welwyd ar y sgrin.

Gyda dyfodiad y dechnoleg newydd, roedd angen terminoleg newydd, ac roedd siaradwyr Cymraeg yn awyddus i beidio â chael eu gadael ar ôl.

Ym mis Mai 1953, cynhaliodd y BBC gystadleuaeth i ddod o hyd i air Cymraeg am television a oedd yn well na'r 'telefisiwn' ddi-ddychymyg. Daeth tua 500 o gynigion i law, yn eu plith 'radlunio' a 'radiolygad', gyda 'teledu' yn ennill y dydd yn y pen draw.

Creu BBC Cymru

Gyda lansiad BBC Cymru ym mis Chwefror 1964, daeth y Gorfforaeth yng Nghymru i oed, gyda rhaglenni newydd yn cael eu cynhyrchu a oedd yn cyd-fynd yn agosach â diwylliant a ffordd unigryw o fyw y genedl.

Daeth Wales Today a Heddiw, a oedd yn ymdrin â straeon newyddion y dydd, yn dipyn o ffefrynnau, ac wrth i fwy o drosglwyddyddion gael eu hadeiladu ar draws y wlad, cododd y ffigurau gwylio.

Erbyn 1967, y flwyddyn yr agorodd Canolfan Ddarlledu'r BBC yn Llandaf, roedd BBC Cymru ar gael i dros 70% o'r boblogaeth. Dychmygwch y llawenydd o wylio talentau disglair Cymru yn llenwi'r sgrin - gyda'r diddanwyr Ryan a Ronnie a'r cantorion Max Boyce a Mary Hopkin ymhlith sêr teledu y 1960au a'r 70au.

Disgrifiad,

Un o sgetsys Ryan a Ronnie

Cafodd cerddoriaeth ysgafn a rhaglenni pop a oedd wedi'u hanelu at y cenedlaethau iau groeso cynhyrfus, gyda The Singing Barn, Hob y Deri Dando a Disc a Dawn ymhlith y mwyaf poblogaidd.

Er gwaethaf arlwy o'r fath, ychydig iawn o oriau a neilltuwyd i raglenni Cymraeg. Mynegwyd pryderon o sawl tu, ac o ddiwedd y 1960au nes i S4C gael ei lansio yn 1982, ymgyrchodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn ddiflino am sianel ar wahân i ddarlledu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Daeth teledu lliw i Gymru yn yr 1970au, gan ddechrau gyda deunydd o Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ym mis Gorffennaf 1970. Bu'r degawd hefyd yn dyst i gyfoeth o raglenni arloesol, gan gynnwys y ffilm rygbi nodedig Grand Slam, ac yn llawn addewid, cyrhaeddodd opera sebon teledu hynaf y BBC, Pobol y Cwm, ym mis Hydref 1974.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Pobol y Cwm yn dilyn hynt a helynt trigolion Cwmderi ers 1974

Er y camau breision ym maes teledu, parhaodd radio i ddatblygu'n gyflym yng Nghymru wrth i Radio Cymru gael ei sefydlu yn 1977 a Radio Wales y flwyddyn ganlynol, gyda'r ddwy orsaf yn dechrau darparu'r hyn a ddaeth, gydag amser, yn wasanaethau cenedlaethol.

Roedd cynulleidfaoedd yn cael eu gwahodd yn gynyddol i gymryd rhan, yn enwedig gyda dyfodiad y rhyngrwyd, a oedd yn cynnig cyfleoedd rhyngweithiol na welwyd erioed o'r blaen.

Lansiodd BBC Cymru ei dudalennau ei hun yn 1997, dechreuodd gwefan addysgol Bitesize yn 1998, tra bod Cymru Fyw wedi bod yn cyhoeddi adroddiadau newyddion ac erthyglau nodwedd yn Gymraeg ers 2014.

Yr oes ddigidol

Gyda chystadleuaeth ffyrnig apiau cyfryngau cymdeithasol a llu o wasanaethau ffrydio, mae'r BBC yng Nghymru yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i'w chynulleidfaoedd newidiol, sy'n llawer mwy amrywiol na'r rhai yn 1923, ac sy'n troi'n fwyfwy at ddigidol yn gyntaf.

Serch hynny, yr un yw'r genhadaeth. Yn ogystal ag ymgysylltu a diddanu, mae'r BBC yn cynnig gofod sy'n procio'r meddwl ar gyfer gwylwyr a gwrandawyr ac i weld a chlywed eu bywydau yng Nghymru yn cael eu hadlewyrchu nôl iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Patrick Olner
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dechnoleg darlledu ddiweddaraf yn cael ei defnyddio yn stiwdios Sgwâr Canolog, pencadlys BBC Cymru

Wrth i'r BBC yng Nghymru ddathlu'r canmlwyddiant, mae ffefrynnau diweddar fel Y Gwyll a Craith yn portreadu Cymreictod modern, sydd weithiau'n bryfoclyd ac yn aml yn feiddgar, ymhell wrth ystrydebau cyfforddus y gorffennol.

Beth bynnag yr achlysur, genre neu blatfform, mae cynnwys BBC Cymru o bob cwr o'r genedl yn parhau i daflu goleuni ar bopeth Cymreig - fel y mae wedi gwneud gyda balchder a llwyddiant yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Pynciau cysylltiedig