Y Bencampwriaeth: Caerdydd 1-3 Middlesborough

  • Cyhoeddwyd
Dau chwaraewr yn mynd am beniadFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Colled anodd yn erbyn Middlesbrough gafodd Caerdydd yn y brifddinas ddydd Sadwrn.

Y gwrthwynebwr Marcus Forss gafodd y gôl gyntaf wedi 16 o funudau gyda'r ymwelwyr yn dechrau'n gryf.

Unioni'r sgor wnaeth Sory Kaba i Gaerdydd ar ôl i Zack Steffan golli gafael ar y bêl.

Ond fe ddaeth Cameron Archer ag ail gôl yr ymwelwyr, a'r drydedd yn ddiweddarach gan Riley McGree.

Mae Caerdydd yn dal eu tir yn yr 21ain safle yn y tabl.