Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-1 Wealdstone

  • Cyhoeddwyd
cicFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Wrecsam yn ôl ar frig tabl y Gynghrair Genedlaethol yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Wealdstone ar y Cae Ras.

Y prif sgoriwr Wrecsam, Paul Mullin, roddodd ei dîm ar y blaen bum munud cyn hanner amser ond sgoriodd yr ymosodwr Tarryn Allarakhia i unioni'r sgôr wedi 50 munud.

Bedair munud yn ddiweddarach, y tîm cartref wnaeth adfer eu henw da, a'r eilydd Jacob Mendy yn sgorio yn erbyn ei gyn glwb.

Fe gafodd chwaraewr Wealdstone, Max Kretzschmar, ail gerdyn melyn a hynny cyn i Sam Dalby ei gwneud hi'n 3-1.

Doedd y sêr Hollywood - Ryan Reynolds na Rob McElhenney - yn bresennol, ond fe wnaeth yr actor Will Ferrell synnu'r cefnogwyr gydag ymddangosiad ar y Cae Ras.