Diswyddo Cymro fel rheolwr clwb Uwch Gynghrair Lloegr wedi tri mis

  • Cyhoeddwyd
Nathan JonesFfynhonnell y llun, Matt Watson
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nathan Jones wedi arwyddo cytuneb tair blynedd a hanner gyda Southampton ond mae'n gadael wedi tri mis

Mae'r Cymro Nathan Jones wedi cael ei ddiswyddo fel rheolwr Southampton yn Uwch Gynghrair Lloegr wedi tri mis.

Yn gyn-reolwr gyda Luton Town, mae Jones, 49, yn gadael y clwb ar waelod y tabl ar ôl y golled yn erbyn Wolves ddydd Sadwrn.

Fe gollodd y tîm naw o'r 14 o gemau gyda Jones wrth y llyw, ar ôl iddo gael ei benodi fis Tachwedd.

Mae dau hyfforddwr hefyd wedi gadael y clwb, gyda'r prif hyfforddwr Ruben Selles yn camu i rôl Jones am y tro.

Pynciau cysylltiedig