Llwyddiant Eisteddfod Dur a Môr ac edrych ymlaen at 2026

- Cyhoeddwyd
Gydag wythnos Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025 yn dirwyn i ben, dywed cadeirydd y pwyllgor gwaith eleni ei fod wedi bod yn "wythnos anhygoel".
Bydd Eisteddfod yr Urdd 2026 yn cael ei chynnal ar gae Sioe, Ynys Môn, ac mae 'na gryn edrych ymlaen yn yr ardal.
Mae'r Urdd wedi cyhoeddi bwriad i ehangu'r Eisteddfod honno i fod yn ŵyl saith diwrnod.
Dywedodd trysorydd pwyllgor gwaith Ynys Môn, Rhys Parry fod yna "edrych ymlaen aruthrol" er gwaetha'r "her" o godi £350,000.
'Lleoliad hudolus'
Wrth edrych yn ôl ar wythnos lwyddiannus ym Mharc Margam, er gwaetha'r glaw, dywedodd Laurel Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith 2025 fod yr wythnos wedi bod yn "anhygoel".
"Mae pob diwrnod wedi bod yn arbennig mewn ffordd gwahanol," meddai.
"Un o'r uchafbwyntiau yw'r lleoliad yma – mae'n hudolus.
"Mae'r holl beth wedi bod yn wych ac mae hi wedi bod yn fraint aruthrol bod yn gadeirydd Eisteddfod Dur a Môr."

"Felly os nad ydyn ni cweit wedi cyrraedd y nod, ni wedi 'neud pob ymdrech i gyrraedd mor agos â phosib," meddai Laurel Davies
Roedd gofyn i'r pwyllgor gwaith godi swm penodol o arian er mwyn gallu cynnal yr eisteddfod eleni, ond dywedodd nad oedden nhw wedi edrych ar y ffigyrau terfynol eto.
"Mae rhanbarth Gorllewin Morgannwg wrth gwrs yn pontio dwy sir, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot a ni wedi codi arian o Benrhyn Gŵyr, y Mwmbwls a Llanmadog lan i Gwmllynfell a Brynaman reit draw i Fargam, lan yn top Cwm Nedd.
"'Dyn ni wedi mynd i bob cornel o'r sir, o'r ardal, a phob un wedi cyfrannu a chyfrannu'n hael iawn.
"Felly os nad ydyn ni cweit wedi cyrraedd y nod, ni wedi 'neud pob ymdrech i gyrraedd mor agos â phosib."

Roedd Donna ac Eleri wedi cael modd i fyw yn y Steddfod eleni
Dywedodd Eleri o Fargam ei bod "wedi cael 'steddfod rili da, mae wedi bod yn wythnos hynod gyffrous, wedi cael cyfle i wirfoddoli efo'r Urdd".
Wrth edrych ymlaen at Ynys Môn, dywedodd: "O'n i ddim yn bwriadu mynd ond gan bo' fi wedi cael cymaint o hwyl yn gwneud y pethau gwirfoddoli, fi yn meddwl mynd lan i wirfoddoli y flwyddyn nesaf."
Ychwanegodd Donna o Gaernarfon ei bod "wedi bod yn fendigedig yma, mae o mewn ardal hyfryd iawn... a doedd dim mwd - bonus!"
Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at gael yr Eisteddfod ym Môn.
Rhannu'r ynys i 26 ardal
Gydag un eisteddfod yn dod i ben, mae pwyllgor gwaith Eisteddfod 2026 wedi hen gychwyn ar y trefnu, ac ar gae Sioe Ynys Môn bydd Eisteddfod 2026 yn cael ei chynnal.
Dywedodd trysorydd pwyllgor gwaith Ynys Môn, Rhys Parry fod yna "edrych ymlaen aruthrol".
Mae'r pwyllgor gwaith eisoes wedi ei sefydlu dros flwyddyn yn ôl ac maen nhw wedi rhannu'r ynys i 26 o rannau gwahanol i geisio codi'r arian.

Rhys Parry: "Dewch draw i'r fam ynys, fe gewch chi amser rhagorol efo ni"
Mae gofyn i'r ynys godi £380,000 er mwyn gallu cynnal yr eisteddfod, swm "heriol" yn ôl Mr Parry.
"Mae £380,000 yn swm reit uchel ond 'da ni ar y llwybr cywir, 'da ni wedi hel dros £150,000 yn barod a deuddeg mis i fynd.
"Mi fydd o'n dipyn o her ond 'da ni fyny i gwrdd â'r her yna, 'da ni'n ffyddiog fydd hi'n steddfod ofnadwy o lwyddiannus ar ei newydd wedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mai
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl