Morwr o Gymru wedi'i ganfod yn farw ar safle yng Nghernyw

  • Cyhoeddwyd
canolfan HMS Raleigh

Mae llongwr o Gymru oedd yn gwasanaethu gyda'r Llynges Frenhinol wedi ei ganfod yn farw mewn canolfan hyfforddi yng Nghernyw.

Cafwyd hyd i Benjamin Thomas, 24, o'r Wyddgrug, ar 30 Ionawr yng ngorsaf HMS Raleigh yn Torpoint.

Mae cwest bellach wedi ei agor a'i ohirio i'w farwolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran y llynges fod ei deulu wedi cael gwybod, ond nad oedd manylion pellach am ei farwolaeth.

"Mae meddyliau a chydymdeimladau'r Llynges Frenhinol yn mynd i'r teulu a ffrindiau," meddai.

"Byddai'n amhriodol i wneud sylw pellach a dylai unrhyw ymholiadau pellach gael eu cyfeirio at y Crwner."

Pynciau cysylltiedig