Cwm: Arestio dyn 23 oed wedi difrod i gae pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Betterment ParkFfynhonnell y llun, Clwb Pêl-droed RTB Glyn Ebwy
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cae pêl-droed yng Nghwm yn cael ei ddefnyddio gan dîm ieuenctid RTB o Lyn Ebwy

Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i gae pêl-droed ym Mlaenau Gwent gael ei ddifrodi gan bobl ar feiciau modur.

Dywed Heddlu Gwent fod dyn 23 oed o ardal Glyn Ebwy wedi ei arestio ar amheuaeth o gynllwyno i achosi trafferth gyhoeddus yn fwriadol neu yn ddi-hid.

Mae'n parhau i gael ei holi yn y ddalfa ac mae ymholiadau'r heddlu i'r digwyddiad yn ardal Cwm yn parhau.

Cafodd yr heddlu eu galw i gae ym Mharc Betterment ar ddydd Sul, 5 Chwefror yn dilyn adroddiadau fod unigolion ar feiciau modur oddi-ar-y-ffordd yn achosi difrod.

Yn dilyn y digwyddiad fe wnaeth gwirfoddolwyr lansio apêl i godi £3,500 er mwyn atgyweirio'r cae, sy'n cael ei ddefnyddio yn bennaf gan ieuenctid.

Pynciau cysylltiedig