Y Gymraeg i'w chlywed ar BBC Radio 2

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y Gymraeg i'w chlywed ar BBC Radio 2

Ar ddiwrnod nodi canmlwyddiant ers i'r Gymraeg gael ei chlywed ar y radio am y tro cyntaf, mae'r cyflwynydd Owain Wyn Evans wedi lansio ei sioe frecwast newydd ar Radio 2 o'r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd.

Dyma'r sioe ddyddiol gyntaf ar yr orsaf i gael ei hymgartrefu y tu allan i Lundain.

Ei eiriau cyntaf oedd "Bore da, darlings. Croeso i Gaerdydd! Welcome to BBC Radio 2 live from Cardiff", cyn chwarae'r gân Stronger gan Britney Spears.

Dywedodd Owain, "Rydw i'n thrilled i gael cyflwyno y rhaglen ddyddiol gyntaf ar Radio 2 i ddod o'r tu allan i Lundain, a ble gwell i'w chynnal hi nag yng nghanolfan ddarlledu anhygoel BBC Cymru Wales yng Nghaerdydd.

"Mae'r iaith Gymraeg yn bwysig iawn i mi, a dyna pam wnes i agor y rhaglen gyda chroeso i bawb!"

Mae'r rhaglen yn cynnwys cerddoriaeth, ambell sgwrs, ac fel drymiwr, mae'n falch o gael cynnwys eitem newydd o'r enw Air Drum Anthems, sy'n rhoi cyfle iddo siarad am ei hoff offeryn cerddorol.

Ewch yn ôl i wrando ar ei raglen gyntaf yma.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau Cysylltiedig