Y Bencampwriaeth: Birmingham 0-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Perry NgFfynhonnell y llun, Rex Features

Mae Caerdydd wedi ennill am y tro cyntaf mewn 15 gêm wedi iddyn nhw sgorio dwy gôl hwyr yn erbyn Birmingham.

Gydag ychydig iawn o gyfleoedd yn yr ornest, fe wnaeth cic rydd wych gan Perry Ng roi'r Adar Gleision ar y blaen gyda chwe munud i fynd.

Sicrhawyd eu buddugoliaeth gyntaf ers 5 Tachwedd yn eiliadau olaf y gêm, wrth i'r eilydd Callum Robinson rwydo'r ail.

Hon yw'r fuddugoliaeth gyntaf dan eu rheolwr newydd, Sabri Lamouchi, ac mae'n codi Caerdydd dri phwynt uwchlaw safleoedd y cwymp yn y Bencampwriaeth.

Pynciau cysylltiedig