Nicola Sturgeon yn ymddiswyddo fel prif weinidog Yr Alban

  • Cyhoeddwyd
Nicola SturgeonFfynhonnell y llun, PA Media

Mae angen arweinydd newydd er mwyn sicrhau fod y gefnogaeth dros annibyniaeth yn "fwy cadarn" ac "yn gallu tyfu ymhellach" yn Yr Alban.

Dyna eiriau Nicola Sturgeon wrth iddi gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo fel prif weinidog y wlad ar ôl mwy nag wyth mlynedd wrth y llyw.

Gwnaeth arweinydd Plaid Genedlaethol Yr Alban (SNP) y cyhoeddiad mewn cynhadledd newyddion a gafodd ei threfnu'n frysiog yng Nghaeredin fore Mercher.

Ni fydd yn gadael ar unwaith, gan ganiatáu amser i olynydd gael ei ethol.

Dywedodd mai'r swydd yw'r "orau yn y byd" ond ei bod yn bwysig gwybod "yn reddfol bron pan mae'r amser yn iawn i wneud lle i rywun arall".

"Nid ymateb i bwysau tymor byr yw'r penderfyniad hwn," meddai, ond yn hytrach, "daw'r penderfyniad hwn o asesiad dyfnach a thymor hwy."

Disgrifiad,

Dywedodd cyn-Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei bod yn allweddol i bob arweinydd gydnabod pryd mae hi'n amser symud 'mlaen

Mae Ms Sturgeon wedi bod yn brif weinidog ers mis Tachwedd 2014, pan gymrodd yr awenau oddi wrth Alex Salmond yn dilyn y refferendwm annibyniaeth.

Arweiniodd Ms Sturgeon yr SNP i gyfres o fuddugoliaethau etholiadol ar lefel y DU, Yr Alban a lleol.

Ond ym mis Tachwedd y llynedd, dyfarnodd barnwyr y Goruchaf Lys nad oes gan Lywodraeth Yr Alban y grym i gynnal refferendwm annibyniaeth arall.

Roedd Nicola Sturgeon eisiau i refferendwm gael ei gynnal ar 19 Hydref eleni, ond roedd Llywodraeth y DU wedi gwrthod rhoi caniatâd ffurfiol i'r bleidlais.

Wedi hynny, dywedodd Ms Sturgeon y byddai'n defnyddio'r etholiad cyffredinol nesaf fel "refferendwm de facto", fel ymgais i ddangos bod mwyafrif o bobl yr Alban yn cefnogi annibyniaeth.

Mae'r misoedd diwethaf hefyd wedi gweld dadleuon ynghylch diwygiadau rhywedd, sydd wedi'u rhwystro gan Lywodraeth y DU.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yr argyfwng costau byw oedd un o’r pynciau a drafodwyd pan gyfarfu’r ddau brif weinidog yng Nghaeredin ym mis Tachwedd

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth y BBC bod Mark Drakeford wedi anfon neges breifat at Nicola Sturgeon.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod Ms Sturgeon yn "wleidydd unwaith mewn cenhedlaeth, wedi'i hysgogi gan angerdd dwfn a diwyro dros ei gwlad a dyletswydd i wasanaeth cyhoeddus".

"Etifeddiaeth Nicola Sturgeon fydd annibyniaeth i'r Alban ac am hynny a phopeth arall y mae hi wedi'i gyflawni, bydd ei chyfnod yn wirioneddol hanesyddol," meddai Mr Price.

A dywedodd cyn-arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood fod yr ymddiswyddiad yn "newyddion ofnadwy".

Ychwanegodd: "Ar lefel bersonol, dwi'n dymuno pob lwc i Nicola Sturgeon. Ar lefel wleidyddol, rydym ni i gyd yn dlotach o'i cholli."

Dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yn Senedd Cymru: "Rwy'n anghytuno â gwleidyddiaeth Nicola Sturgeon, ond dylai hyd yn oed gwrthwynebwyr gwleidyddol allu cydnabod yr effaith y mae hi wedi'i chael.

"Rwy'n dymuno'n dda iddi hi a'i theulu ym mhennod nesaf eu bywydau."

Disgrifiad o’r llun,

Carwyn Jones (chwith) yn cyfarfod â Nicola Sturgeon a gweddill penaethiaid yr awdurdodau datganoledig yn 2011

Ar raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru, dywedodd y cyn-brif weinidog Carwyn Jones mai "problem yr SNP nawr yw, pan ymddiswyddodd Alex Salmond roedd Nicola Sturgeon a phroffil eithaf uchel ac roedd pawb yn edrych mai hi fydde yn cymryd drosodd.

"Dim felly yw pethe ar hyn o bryd. Dwi ddim yn gwybod pwy sydd yn flaenllaw yn y blaid.

"Bydd rhaid i unrhyw arweinydd newydd ddechrau nawr gyda phroffil isel o'i gymharu gyda Nicola Sturgeon pan ddechreuodd hi."

Ar yr un rhaglen, dywedodd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: "Ar lefel bersonol dwi yn ymateb yn drist. Mae hi wedi bod yn ffigwr enfawr o fewn gwleidyddiaeth Prydain Fawr, ac i fi wrth gwrs yn ddynes sydd wedi arwain yn ddigyfaddawd o blaid tegwch a chyfiawnder.

"Fi'n meddwl hefyd y byddwn ni yn ei chofio hi fel rhywun sydd wedi newid tirwedd wleidyddol Prydain nid jyst Yr Alban".

Ychwanegodd: "Yr hyn dwi yn edmygu amdani hi rŵan yw bod hi yn gweld bod dyma'r cyfle iddi hi sefyll lawr. Nid un person yw'r ymgyrch annibyniaeth."

Effaith ar ymgyrch annibyniaeth?

Ddydd Mercher, dywedodd Ms Sturgeon fod angen arweinydd newydd er mwyn sicrhau cefnogaeth "fwy cadarn" dros annbiyniaeth i'r Alban a'i "ymestyn ymhellach".

Mewn ymateb i hynny ar raglen Post Prynhawn, dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, fod y disgrifiad yn "annheg".

"Falle o'dd hi'n rhy wylaidd am hynny achos o'dd hi'n ennyn parch ar draws y sbectrwm.

"Ma' hi wedi ymroi fwy na 100% ond mae 'na bwynt yn dod, hyd yn oed ar lefel Nicola, ac oherwydd ei didwylledd hi... er mwyn bod yn driw i'r genhadaeth sydd gyda ni, bod hi'n teimlo mae'n amser nawr i symud 'mlaen a rhoi cyfle i rywun arall'.

"Dwi'n sicr, dy'n ni ddim wedi clywed y d'wetha o Nicola, ond bod hi'n teimlo y gall hi nawr gyfrannu mewn ffyrdd eraill at y prif nod wrth gwrs o sicrhau Alban annibynnol."

Ond fe fydd ei hymadawiad yn "destun siom" yng nghyd-destun yr ymgyrch am annibynniaeth Yr Alban, dywedodd Mr Price.

"Mae'n siŵr gen i y bydd pobl yn siomedig yn hynny o beth ond mae'r SNP yn blaid enfawr o dros 100,000 o aelodau a thalent di-ri ar draws y blaid ac yn eu rhengoedd yn Senedd yr Alban. Mi ddaw 'na genhedlaeth newydd."

Pynciau cysylltiedig