Manon Steffan Ros: 'Llawer ohona' i yn y nofel yma'

  • Cyhoeddwyd
Manon Steffan Ros a Llyfr y Flwyddyn 2019

Mae Manon Steffan Ros wedi ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018 a gwobr Llyfr y Flwyddyn 2019 am ei nofel Llyfr Glas Nebo.

Erbyn hyn, mae'r awdur wedi addasu'r nofel lwyddiannus i ddrama lwyfan, a fydd yn mynd ar daith o amgylch Cymru o ddiwedd Ionawr tan fis Mawrth.

Tara Bethan sy'n chwarae rhan y brif gymeriad, Rowenna, yn y ddrama, ac ers i Manon Steffan Ros wylio'r actores yn paratoi ar gyfer y daith lwyfan, mae wedi sylweddoli cymaint ohoni hi ei hun sydd yn y cymeriad, meddai, ac mae meddwl amdani yn cael ei phortreadu ar lwyfan yn brofiad 'dychrynllyd':

"Efo'r ddrama yma yn enwedig, beth sy' 'di digwydd yn annisgwyl ydy, dwi 'di sylweddoli faint ohona' i fy hun dwi 'di roid yn y llyfr ma, yn enwedig yng nghymeriad Rowenna.

Ffynhonnell y llun, Y Frân Wen
Disgrifiad o’r llun,

Tara Bethan sy'n chwarae rhan Rowenna yn y ddrama lwyfan o Llyfr Glas Nebo

"Pan wnes i gyfarfod Tara Bethan, yr actores sy'n chware rhan Rowenna, o'n i'n teimlo yn eitha' anghyffyrddus. Ac mi oedd hi'n teimlo yn eitha' anghyffyrddus efo fi a gathon ni heart to heart ar ôl diwrnod neu ddau, a dweud mae'n eitha' amlwg, o fod wedi treulio amser efo'n gilydd, mai fi ydy hi, mewn ffordd.

"Wnes i ddim meddwl hynny o gwbwl, cyn hynny. Ti ddim yn 'nabod ti dy hun yn dda iawn nagwyt?

"Ac felly dwi yn gorfod cymryd y cam o roi fy hun ar lwyfan - dychrynllyd!"

Felly sut brofiad oedd addasu ei nofel ei hun ar gyfer drama lwyfan? Bu Manon Steffan Ros yn egluro wrth Aled Hughes ar BBC Radio Cymru ar 21 Ionawr.

"Dwi'n meddwl efo unrhywbeth ti'n sgrifennu yn greadigol, mae'r amser yn dod lle ti'n goro cydnabod mai dim chdi bia fo dim mwy, ac efo llyfr, mae hynny yn dod pan mae'n cael ei gyhoeddi.

"Efo drama, mae'n dod pan ti'n rhoi y drafft ola' 'na o'r sgript i'r cwmni theatr.

"Ti'n gorfod wynebu wedyn mai nid yn unig dy waith di sy'n mynd i mewn iddo fo, ond mae'n ddehongliad gan y cyfarwyddydd, adeiladydd set ac efo'r actorion wrth gwrs. Felly mae o'n broses eitha' scary i rywun fel fi sy'n dipyn bach o control freak.

Disgrifiad o’r llun,

Manon Steffan Ros oedd enillydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 2018

"Dwi erioed 'di bod yn ddigon dewr i roi fy ngwaith i rywun arall [i'w addasu] felly dwi ddim yn gwybod sut fyswn i'n teimlo [am hynny] ond dwi'n dychmygu bysa fo'n lot annos taswn i wedi, achos dwi'n cymryd y cyfrifoldeb dros beth ydy o ar lwyfan.

"Mae 'na griw ohonan ni yn gweithio ar hwn ar gyfer y llwyfan, mae'n gywaith. Dwi'n gorfod cymryd cyfrifoldeb os ydy'r sgript ddim yn gweithio, ond fyswn i ddim yn licio petai rhywun arall yn gorfod cymryd y cyfrifoldeb yna.

"O'n i'n teimlo os oes 'na gwmni dwi'n ymddiried ynddyn nhw, y Frân Wen ydy hwnna, ac o'n i eisio gweithio hefo nhw a trio ffeindio y theatr yn y nofel."

'Ffenomenon'

Mae'r nofel Llyfr Glas Nebo wedi cael cryn sylw ers iddi gael ei chyhoeddi, gan ddarllenwyr a beirniaid llenyddol fel ei gilydd, gyda nifer yn ei henwi ymhlith eu hoff lyfr Cymraeg erioed, dolen allanol, ac erbyn hyn mae'n cael ei gweld yn ffenomenon yn yr iaith Gymraeg. Sut deimlad yw hynny i'r awdur?

"Unwaith mae allan yno'n gyhoeddus [llyfr neu ddrama]... mae'n berthynas ryfedd.

"Dwi wastad yn teimlo efo llyfrau a dramâu, a bob dim dwi'n creu… fi bia fo, ond mae ganddo fo ei fywyd ei hun, ac mae gymaint o bobl 'di bod yn glên am Llyfr Glas Nebo. Dwi ddim wir yn teimlo yn falch ohono fi fy hun, dwi'n falch dros y stori a dros y cymeriadau - mae 'na ryw fath o detachment rhyfedd.

"Pan ma' rhywun yn dweud rhywbeth clên am dy blant, ti'n teimlo'n falch bod dy blentyn di fel 'na, ti ddim yn teimlo 'da iawn fi am greu y plentyn yma'. Mae o fel 'na, dyna'r ffordd agosa' fedra i ei esbonio fo.

"Mae [Llyfr Glas Nebo] wedi bod yn ffenomenon i fi, mae'r ymateb yn rhywbeth allet ti ond freuddwydio amdano, felly dwi'n teimlo'n ffodus iawn bod pobl mor ffeind amdano fo."

Ond wrth sôn am weld y ddrama ar lwyfan, meddai:

"Dwi mor nerfus, dwi'n teimlo'n sick yn meddwl am y peth!"

Sylw i Llyfr Glas Nebo yn Efrog Newydd

Erbyn hyn, nid denu sylw yng Nghymru yn unig mae'r llyfr; mae asiant o Efrog Newydd hefyd wedi mynegi diddordeb yn y llyfr ac mae Manon wedi cyfieithu ei gwaith i'r Saesneg, i'w anfon allan i Manhattan.

"Mae Cyfnewidfa Lên Cymru yn gweithio i drio marchnata llyfrau Cymraeg dramor. Fe wnaethon nhw gymryd Llyfr Glas Nebo ymlaen.

"Ffordd mae'n gweithio ydy ti'n cyfieithu'r bennod gyntaf a wedyn mae nhw'n dangos o i lwyth o bobl ac mi wnaeth yr asiant 'ma ddigwydd gweld pennod gyntaf y llyfr mewn rhyw gylchgrawn, a wedyn wnes i anfon yr holl beth draw a mae o'n licio fo.

"Gawn ni weld beth ddaw, sgen i ddim disgwyliadau uchel. I fi, mae o mor Gymreig. O'n i'n gorfod newid ychydig bach achos mae rhai o'r themâu yn dod o lenyddiaeth Gymraeg.

"I fi, y peth mwya' rhyfedd ydy meddwl am rywun yn Manhattan yn darllen Llyfr Glas Nebo a'i fod yn 'neud rhywfath o sens iddyn nhw!"

Hefyd o ddiddordeb: