Pump llyfr da (a pham dwi'n darllen bob dydd)
- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n chwilio am lyfrau Cymraeg newydd i ymgolli ynddyn nhw, neu wedi gwneud adduned i ddarllen mwy ac eisiau rhywun i'ch rhoi ar ben ffordd, yna mae gan Francesca Sciarrillo argymhellion i chi.
Mae'r swyddog hyrwyddo o dras Eidalaidd o'r Wyddgrug - a gafodd ei haddysg yn Saesneg cyn dysgu Cymraeg fel oedolyn ifanc - yn angerddol am lyfrau ers pan mae'n blentyn ac mae'n ceisio darllen bob dydd.
Dechreuodd ddarllen llyfrau Cymraeg tua phum mlynedd yn ôl pan oedd yn gorffen ei gradd meistr mewn llenyddiaeth Saesneg ac yn dysgu'r iaith.
Gyda phob llyfr a ddarllenodd fe deimlodd fwy a mwy o ddealltwriaeth o'i hunaniaeth Gymreig.
Agor drws
"O'n i'n dechrau llyncu'r llyfrau yma, un ar ôl y llall, achos 'nath o agor drws i fi," meddai Francesca, sy'n 27 oed. "A rŵan dwi'n trio darllen un llyfr Cymraeg ac un llyfr Saesneg ar yr un amser.
"Mae llyfrau, a cherddoriaeth, yn agor y drws i iaith a diwylliant yn gyffredinol. Felly o'n i'n teimlo efo bob llyfr o'n i'n darllen roedd yn helpu fi i ddeall neu deimlo'n agosach at y Gymraeg, hanes Cymru, hanes pobl Cymraeg, yn enwedig pan dwi'n darllen llyfrau sy'n cael eu hystyried fel llyfrau clasurol fel Un Nos Ola Leuad a Traed Mewn Cyffion."
Ar hyn o bryd mae Francesca'n gweithio i wasanaethau hamdden a llyfrgelloedd Aura yn Sir y Fflint ond mae ar fin dechrau swydd newydd gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn hyrwyddo darllen ymysg pobl ifanc a phlant.
Mae wedi dewis pump o'i hoff lyfrau diweddar ac yn rhannu cyngor am ble i ddarganfod llyfrau newydd a thanio eich diddordeb.
Pump llyfr diweddar dylech chi eu darllen
1. Cwlwm gan Ffion Enlli
Prynais gopi o Cwlwm yn fy siop leol, sef Siop Elfair yn Rhuthun, ar ôl gwrando ar bodlediad Caru Darllen gan Cyngor Llyfrau Cymru. Llyfr ffuglen gyfoes sy'n edrych ar fywyd dynes ifanc o Ben Llŷn yn byw yn Llundain. Ers gorffen y llyfr, dwi heb stopio meddwl am rai o'r themâu a chwestiynau sy'n codi - yn enwedig ynglŷn â hunaniaeth.
Er fy mod i wedi tyfu fyny mewn ardal wahanol i'r prif gymeriad, Lydia, roeddwn i dal yn gallu uniaethu efo rhai o'i phrofiadau. A dwi'n meddwl y bydd llawer iawn o Gymry yn teimlo'r un peth wrth ddarllen ei stori. Dwi wrth fy modd efo'r clawr prydferth, hefyd!
2. Sgen I'm Syniad: Snogs Secs a Sens gan Gwenllian Ellis
Eto rhuthrais i fy siop leol i brynu copi o'r llyfr yma. Mae'r clawr yn adlewyrchu'r cynnwys yn berffaith; mae'n lliwgar a deniadol, ac yn arddangos un o'r prif themâu'r llyfr: cyfeillgarwch, a chyfeillgarwch rhwng merched yn benodol.
Mae'n llyfr sy'n edrych ar berthnasoedd o wahanol fath, a'r perthynas mwyaf pwysig: yr un sydd gennym ni efo ni ein hunain. Felly, llyfr hunangofiant lle mae'r awdures yn tynnu ar ei phrofiadau hi ei hun.
Doeddwn i ddim yn disgwyl mwynhau'r llyfr gymaint ag y gwnes i oherwydd y ffaith bod llyfrau ffuglen yn apelio ata i llawer mwy na llyfrau ffeithiol fel arfer. Ond doeddwn i ddim yn gallu rhoi'r llyfr yma i lawr! Mae'n llyfr llawn bywyd - a bywyd go iawn, nid ffantasi - hiwmor a gonestrwydd: mae'n hollol adfywiol.
3. Powell gan Manon Steffan Ros
Llyfr i bobl ifanc yw Powell. Mae'n dilyn taith hogyn ifanc a'i Daid wrth iddyn nhw drafeilio i America i ddysgu mwy am hanes eu teulu. Mae'n amserol a chyfoes iawn, er bod yna bwyslais mawr ar hanes yn y nofel. Mae hefyd yn stori bwerus a theimladwy iawn - roeddwn i angen tissue ar un pwynt!
Mi wnes i fwynhau'r nofel yn fawr iawn ac yn gobeithio y bydd hi'n agor drws i drafodaethau pwysig ac angenrheidiol - nid i bobl ifanc yn unig ond i oedolion o bob oed.
4. Rhyngom gan Sioned Erin Hughes
Casgliad o straeon byrion o wahanol fath gan awdures hynod o dalentog, yn fy marn i. Mae'r casgliad, fel mae'r enw yn awgrymu, yn edrych ar berthnasoedd gwahanol - fel cariadon, neu blant a'u rhieni - a'r ffiniau rhwng pobl, llefydd, neu wledydd, sy'n rhyngom ni ein hunan fel unigolion.
Gallwch ddarllen un ar y tro neu ambell mewn un eisteddiad - dwi'n argymell un ar y tro yn bersonol! Bob un stori yn llifo oddi ar y dudalen i aros yn nghof ei darllenwr - wel dyna'r profiad ges i beth bynnag!
5. Y Defodau gan Rebecca Roberts
Stori am ddynes o'r enw Gwawr sy'n gweithio fel gweinydd ac yn cynnal seremonïau enwi, priodasau ac angladdau digrefydd. Felly, o ran cynnwys a phlot, mae gan y nofel safbwynt diddorol.
Mae'r llyfr yn delio efo themâu cymhleth iawn fel colled a pha mor ganolog yw hynny ym mywydau cymaint o bobl - a hefyd, pwysigrwydd cyfeillgarwch a chariad. Roedd hi'n braf darllen nofel sy'n cael ei gosod yn y gogledd ddwyrain, hefyd!
Dau lyfr eithaf diweddar dwi heb lwyddo i'w darllen eto yw Mori gan Ffion Dafis a Pridd gan Llŷr Titus. Maen nhw wedi bod ar fy rhestr ers iddyn nhw gael eu rhyddhau a dwi'n edrych ymlaen at eu darllen eleni.
Siopau, Instagram a phodlediadau
Dwi'n ffeindio llyfrau newydd mewn bach o bob man - dwi wastad yn popio fewn i'r siop leol, Siop Elfair, pan dwi'n gallu ac yn pori drwy'r silffoedd a gweld beth sydd yn newydd. Hefyd Siop y Siswrn yn Yr Wyddgrug a Palas Print, Caernarfon (hoff siop lyfrau fi yn y byd!).
Ond hefyd oherwydd bod gen i ddiddordeb dwi'n mynd i chwilio ar-lein ac ar gyfryngau cymdeithasol. Dwi'n dilyn tudalennau gwahanol ar Instagram i gael gwybodaeth, adolygiadau ac argymhellion, er enghraifft llyfrau.cymru, dolen allanol, sonamlyfra, dolen allanol a librarieswales, dolen allanol.
Mae tudalennau cyhoeddwyr hefyd yn lle da a phodlediadau fel Caru Darllen, dolen allanol hefyd.
Dwi'n trio darllen bob diwrnod - os oes diwrnod yn mynd heibio heb i fi ddarllen un tudalen, pum tudalen neu bennod o lyfr, dwi'n teimlo fel mod i ddim wedi cael diwrnod productive o gwbl.
Dwi'n teimlo fel mod i'n cael lles allan ohono, efallai i wneud efo fy iechyd meddwl, neu iechyd yn gyffredinol.
Mae'n swnio ychydig bach yn ddramatig ella' ond dwi yn meddwl mod i ar goll heb lyfrau.
Mae Francesca yn trafod llyfrau a'i thaith at y Gymraeg ar raglen Dei Tomos nos Sul 19 Chwefror 2023 am 17:00.
Hefyd o ddiddordeb: